Mae myfyrwyr chwaraeon yn cyfnewid hyfforddiant rygbi am hud pêl-fasged yn Florida

Mae myfyrwyr Lefel 3 mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, Grŵp Colegau NPTC newydd ddychwelyd o daith 10 diwrnod llawn hwyl a sbri yn Florida.

Bu’n brofiad chwaraeon bythgofiadwy gyda’r cyfle i weld y cyfleusterau sydd ar gael i fyfyrwyr chwaraeon ym Mhrifysgol Florida ynghyd â chyfle i gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi a mynychu gemau pêl fas a phêl-fasged, yn ogystal ag ymweliadau ‘nawr ac yn y man.

Fel rhan o’r amserlen, aeth y grŵp i Brifysgol Florida sydd erbyn hyn yn falch i gynnig llu o raglenni sydd yn y deg uchaf yn y byd – allan o fwy na 26,000 o sefydliadau addysg uwch sy’n cynnig graddau, yn ôl rhestr Ebrill 2017 gan y Center for World University Rankings. Rhif 10 yw’r brifysgol ar hyn o bryd yn y rhestr sy’n cwmpasu Lletygarwch, Hamdden, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Ni allai’r myfyrwyr gredu pa mor fawr oedd y Brifysgol gyda’i chyfleusterau chwaraeon helaeth, ei stadia a’r holl ddulliau hyfforddi.  Roedd y myfyrwyr yn rhannu eu gwybodaeth am chwaraeon traddodiadol y DU fel pêl-rwyd, pêl-droed, hoci a rygbi. Aeth y myfyrwyr ati hefyd i rannu ymwybyddiaeth am ddatblygiad ym maes chwaraeon gan sôn hefyd am y gwahaniaethau diwylliannol a thechnolegol.  Yn yr Amerig mae sicrhau cydraddoldeb i chwaraeon merched yn bwysig dros ben ac yn y Brifysgol, rhaid sicrhau bod merched yn cael mynediad i gymaint o chwaraeon â’r rheiny sydd ar gael i ddynion ac mae chwaraeon newydd yn cael eu cynnig os nad yw hynny’n wir.  Trafodwyd datblygiadau newydd ym maes hyfforddiant fel delweddu holograffig ar y maes, i’w ddefnyddio yn ystod sesiynau hyfforddi.

Cafodd y 18 myfyriwr gyfle wedyn i wylio rhai o’r chwaraeon mwyaf enwog yn yr Amerig wrth fynd i weld gêm pêl-fasged Orlando Magic yn erbyn Oklahoma City a gêm pêl-fas Atlanta Braves yn erbyn Baltimore Orioles. Sylwodd y myfyrwyr ar y brwdfrydedd a’r ddrama yn y gemau a sut mae’r egwylion yn cael eu defnyddio i gyllido digwyddiadau drwy gyfrwng hysbysebu a gwylio. Roedd cystadlaethau i wylwyr, nwyddau’n cael eu dosbarthu am ddim a chyfle i wylwyr gael eu ffilmio/ymddangos ar y teledu ar y llwyfan cenedlaethol.

Trefnwyd ymweliad hefyd i Golds Gym fel rhan o’r daith i ddangos y cyfleoedd gyrfaoedd sydd ar gael i ddysgwyr a sut mae Busnes yn gweithio yn yr UDA.  Mae rhannau o’r daith yn berthnasol i gymhwyster Bagloriaeth Cymru’r dysgwyr lle y mae gofyn iddynt gymharu Cymru, Ewrop a’r Byd.

 

Roedd cyfle hefyd i brofi’r hud a’r iasau yn Florida wrth ymweld â rhai o’r atyniadau mwyaf enwog gan gynnwys Universal Studios – ffordd ffantastig i ddod â thaith mor fythgofiadwy i’w phen.

 

Dywedodd Chay Billen, darlithydd Chwaraeon yng Ngholeg Bannau Brycheiniog a oedd yn gyfrifol am drefnu’r daith gyda’i gyd-weithiwr Rhian Davies:  “Mae hyn wedi bod yn gyfle ffantastig i’n myfyrwyr ddysgu am chwaraeon, technegau hyfforddi, gyrfaoedd a diwylliannau gwahanol.  Dwi’n gwybod y bydd pob myfyriwr yn cofio’r profiad hwn am flynyddoedd.  Doedd rhai o’r myfyrwyr byth wedi gadael y DU o’r blaen ac mae’r daith hon wedi agor y drysau i bosibiliadau a syniadau newydd”.

Am fwy o wybodaeth am gwrs mewn Chwaraeon yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, Grŵp Colegau NPTC, ffoniwch 01686 614 457/420 neu ewch i’n gwefan www.nptcgroup.ac.uk <https://www.nptcgroup.ac.uk>