Mae myfyrwyr mewn Astudiaethau Busnes a TGCh yng Ngholeg Bannau Brycheiniog a Choleg Castell-nedd newydd ddychwelyd i Gymru wledig ar ôl ymweliad addysgol i Frwsel.
Aeth myfyrwyr ar hyd y llwybr twristiaid i brifddinas Gwlad Belg, gan deithio ar y bws ac Eurostar cyn treulio tri diwrnod yn y ddinas.
Ariennir y daith yn rhannol gan yr ASE Llafur dros Gymru, Derek Vaughan, a dreuliodd fore gyda’r grŵp. Trafododd ei rôl fel ASE a chynhaliwyd sesiwn holi ac ateb cyn i’r grŵp fwynhau taith o gwmpas adeilad a siambrau trafod y Senedd Ewropeaidd.
Ymwelodd y myfyrwyr â mwy o atyniadau’r ddinas wrth fynd i fragdy a ffatri siocled cyn teithio adre.
Nid dyma’r tro cyntaf i’r myfyrwyr gael y cyfle i fynd cam ymhellach i wella’u haddysg. Er enghraifft, yn ystod teithiau blaenorol, mae ein myfyrwyr wedi mynd i’r Unol Daleithiau, Mongolia a Sbaen heulog hyd yn oed!
Cewch fwy o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael gennym wrth fynd.