Mae Academi Cerddoriaeth Grŵp Colegau NPTC wedi neidio i mewn i’r gwanwyn gyda llawer o bethau i’w dathlu – o fyfyrwyr yn cael eu derbyn am lefydd yn y conservatoires cerddorol o’r raddfa flaenaf yn y Du i fyfyrwyr eraill yn ennill gwobrau cyntaf mewn cystadlaethau cenedlaethol.
Mae Edward Jones, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Dyffryn sy’n astudio Cerddoriaeth erbyn hyn, a myfyriwr Safon U Gareth Thomas o Ysgol Gyfun Cwmtawe wedi cael eu derbyn i astudio BMus (Anrh) Jazz yng Ngholeg Brenhinol Cerdd Cymru.
Dywedodd Edward y cerddor talentog “Mae hi wedi bod yn flwyddyn gyffrous, Dwi wedi cael cyfle i symud fy ymarfer cerddoriaeth a fy mrwdfrydedd yn eu blaen drwy berfformio detholiad o ddigwyddiadau yn yr ardal. Dwi’n edrych ymlaen at ymuno â Choleg Brenhinol Cerdd Cymru ym mis Medi I ddysgu mwy am y llwybrau diwylliannol ac uniad jazz ar draws y byd.”
Wrth barhau â llwyddiant yr Academi yn ystod y gwanwyn, enillodd Sophie Williams sy’n canu’r clarinét Gystadleuaeth flynyddol Roger Chilcott a gynhaliwyd ym mis Mawrth, gydag Edward Jones yn ennill y trydydd lle am ei berfformiad offerynnol gyda’i drymped. Enillwyd gwobrau’r nesaf at y gorau hefyd yn yr un gystadleuaeth gan dri o fyfyrwyr eraill a chafodd eu canmol am eu doniau cerddorol. Mae myfyrwyr hefyd wedi bod wrthi’n cymryd rhan yng Ngŵyl Gerdd Ranbarthol yr Ieuenctid ym Mhorthcawl a Chystadleuaeth Gerdd Abaty Margam.
Daeth pobl yn eu llu hefyd i gynyrchiadau blynyddol gan yr Academi Cerddoriaeth o Gyngerdd Flynyddol y gwanwyn pan gafodd myfyrwyr y cyfle i arddangos eu galluoedd cerddorol yn fyw ar y llwyfan.
Dywedodd Carolyn Davies, arweinydd pwnc mewn Cerddoriaeth yn y Coleg: “Mae ein Hacademi Cerddoriaeth yn gartref i lu o ddulliau cerddorol, o gerddoriaeth glasurol i gerddoriaeth swing. Mae wedi bod yn bleser gweld ein myfyrwyr yn ymgysylltu mewn cystadlaethau cenedlaethol a lleol; rydym yn annog ein myfyrwyr i berfformio mewn digwyddiadau yn y gymuned i arddangos eu doniau.”
Mae gan Grŵp Colegau NPTC gyfradd lwyddo o 99.9% gan gynnwys cyfradd lwyddo o 100% mewn cerddoriaeth ac rydym yn cynnig detholiad ardderchog o gyrsiau Safon U er mwyn galluogi ei fyfyrwyr i gyflawni eu hamcanion flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae’r Academi Cerddoriaeth yn parhau i godi ei phroffil llwyddiannus o flwyddyn i flwyddyn.
Mae’r cwrs Safon U mewn Cerddoriaeth yn parhau i dyfu yng Ngrŵp Colegau NPTC, ac mae’n gynnwys tair uned bob blwyddyn: Perfformio, Cyfansoddi ac Arfarnu. Gall myfyrwyr astudio detholiad o gerddoriaeth o’r cyfnod clasurol hyd at yr ugeinfed ganrif/unfed ganrif ar hugain ynghyd â theatr gerddorol, roc a cherddoriaeth boblogaidd neu jazz.
Os hoffech astudio cerddoriaeth yng Ngrŵp Colegau NPTC, cysylltwch â ni ar 01639 648000 neu cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y pynciau sydd ar gael yn Academi Cerddoriaeth Grŵp Colegau NPTC.
Bydd yr Academi Cerddoriaeth yn perfformio mewn digwyddiadau cerddorol sy’n dod yn fuan yn yr ardal hon ym mis Mehefin, gan gynnwys y Funk Band yng Nghlwb Rotari Castell-nedd a’u Cyngerdd Blynyddol yr haf gyda Chôr Meibion Castell-nedd ar 26 Mehefin yn Theatr Nidum.
Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau’r Academi, cadwch eich llygaid yn agored am ddiweddariadau ar Twitter a Facebook: @NPTCGroup_Music.
Capsiwn ar gyfer y llun: Llongyfarchiadau i fyfyrwyr Yr Academi Cerddoriaeth Edward Jones a Gareth Thomas sydd wedi cael eu derbyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd Cymru i astudio jazz.