O Awstralia i Slofenia: yn fuan ar ôl ei ymdrechion yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia, mae Andy Davies o Grŵp Colegau NPTC wedi hawlio buddugoliaeth ym Mhencampwriaethau Rhedeg Mynyddoedd Meistri’r Byd yn Slofenia.
Gorffennodd y rhedwr marathon 38 oed yn yr 11eg safle yng ngwres tanbaid yr Arfordir Aur, cyn hawlio medal Aur unigol yn y categori Meistri 35 ar 2 Mehefin.
Nid oedd y tywydd mor eithafol y tro hwn, er bod y ras ei hun yr un mor heriol.
Yn cael ei chynnal ar Fynydd Ratitovec yn Zelezniki, roedd bron i 400 o redwyr dros 35 oed yn rhedeg 10.8km gyda’r dasg hynod anodd o ddringo 1,184m.
Ni wnaeth hynny atal Andy fodd bynnag rhag parhau â’i flwyddyn wych,wrth iddo ennill mewn amser o 1:04:44.
Bydd y fuddugoliaeth yn sicr yn un o uchafbwyntiau gyrfa’r darlithydd o Goleg y Drenewydd, sydd bellach wedi cynrychioli ei wlad mewn dwy o Gemau’r Gymanwlad a Phencampwriaethau’r Byd. Fe oedd y Cymro cyntaf i redeg y marathon er 16 mlynedd yng Ngemau Glasgow yn 2014.
Gall llawer ddigwydd mewn pedair blynedd, gan fod Andy mewn cystadleuaeth frwd i gyrraedd y gemau y tro hwn.
Rhoddodd mwy fyth o gymhelliant iddo lwyddo, gan ei fod wedi cymhwyso a llwyddo i fod y Cymro cyntaf i groesi’r llinell derfyn.
Gan edrych yn ôl ar ei lwyddiannau ar yr Arfordir Aur, dywedodd: “Pan glywais mai yn Awstralia y byddai Gemau’r Gymanwlad nesaf, roedd rhaid i mi fod ar yr awyren yna!
“Roedd ychydig yn fwy dwys, y tro hwn, i geisio cyrraedd yno.
“Roedd carfan eithaf mawr gyda ni mewn gwirionedd, a gan eu bod wedi codi’r safon yn uwch ar gyfer tîm Cymru doeddwn i ddim yn disgwyl llawer.
“Roedd pobl wedi perfformio ar eu gorau, yn enwedig yn y digwyddiad dygnwch ac roedd awyrgylch tîm da hefyd. Roedd gennym bedwar rhedwr marathon y tro hwn, felly roedd yn dda.
“Yn amlwg roedden ni i gyd am i’n gilydd wneud yn dda ond rydych bob amser yn teimlo eich bod am wneud yn well na’r person arall!
“Ond roedd yn dda cael pobl eraill yn y ras ac roedd yn braf i fod y Cymro cyntaf yn ôl.”
Gorffennodd Andy ychydig yn unig y tu allan i’r 10 uchaf tra’n ymdrin â thymheredd a fyddai’n cyrraedd 29 gradd yn ystod y ras. Ar ôl y canlyniad roedd yn meddwl tybed a fyddai’r canlyniad wedi gallu bod yn wahanol, tra’n teimlo ar y llaw arall ei fod wedi bod yn lwcus i orffen y ras.
“Rydw i wedi gwneud un neu ddwy ras boeth arall, ond roedd hwn… y tu hwnt i bob dim! Roedd yn anodd,” meddai, wrth fyfyrio ar y ras.
“Roeddwn i’n gwybod am y tymereddau yno cyn y ras (wrth hyfforddi). Roeddem i fod i gynefino ar ôl wythnos i 10 diwrnod ond byddai wedi cymryd llawer mwy o amser i ddod i arfer â’r gwres yna.
“Roedd hi’n anarferol o boeth tra roedden ni yno, felly roedd y tymheredd yn uwch na’r disgwyl.
“Ond mae’r sefyllfa yr un peth i bawb, felly mater o fwrw ymlaen yw hi.
“Byddai bod ymhlith yr wyth cyntaf wedi bod yn eithaf da. Wrth edrych yn ôl gallwn fod wedi gwneud ychydig yn well. Nid ar y dydd, ond o ran safle taswn i’n cael ras dda ac yn gyfarwydd â’r gwres gallwn fod wedi gwneud llawer yn well.
“Roedd yn rhaid i mi fodloni ar fy safle yn y diwedd. Ni fyddwn wedi gallu gwneud mwy, ac roeddwn yn hapus i gwblhau’r cwrs.
“Wrth edrych ar y grŵp o 24 a ddechreuodd, gwnaeth efallai traean ohonynt roi’r gorau iddi, mae hynny’n dangos pa mor anodd oedd hi.
“Roedd rhai wedi gorffen mewn cyflwr gwael… roedd llwyddo i gwblhau’r peth yn braf.”
Roedd llawer wedi sylwi ar ei ymdrechion, gyda negeseuon o gefnogaeth yn cyrraedd o’i gartref yng nghanolbarth Cymru. Roedd yn rhywbeth nad oedd Andy yn ei ddisgwyl, ac mae’n cael ei stopio ar y stryd hyd heddiw.
“Roedd hi’n eithaf anhygoel, yr holl negeseuon ar wahanol lwyfannau ac ati, roedd negeseuon yn cyrraedd o bob man!
“Hyd yn oed ers i mi ddychwelyd, mae pobl wedi dweud: ‘Da iawn, arhosais i fyny i wylio’ – dieithriaid ar y stryd.
“Mae wedi bod yn eithaf anhygoel mewn gwirionedd bod pobl wedi aros i fyny tan un o’r gloch yn y bore i wylio.
“Rwy’n ddiolchgar iawn iddynt.”
Roedd ychydig o wynebau cyfarwydd yno i gyfarch Andy yn Awstralia, gyda rheolwr tîm bowlio Cymru Hazel Wilson a seren rygbi saith bob ochr Tom Williams yn eu plith.
Ar ôl mynd o fod yn wyliwr yng Ngemau Melbourne yn 2006 i fod yn un o’r sêr y byddai wedi’u gweld 12 mlynedd yn ddiweddarach, mae Andy yn gobeithio y gall ef ac a’i gyd-athletwyr yng Nghanolbarth Cymru ysbrydoli eraill i lwyddo.
“Gwnes i gyfarfod sawl un arall, pobl o Faesyfed,” meddai. “Roedd ychydig o bobl leol yno!
“Mae’n cael dylanwad da i wybod bod pobl o’r ardal hon wedi llwyddo ac mae’n dangos i bobl eraill nad oes rhaid i chi fod o Gaerdydd neu Abertawe, gallwch chi lwyddo os ydych chi’n o’r Drenewydd. Nid yw’n bwysig mewn gwirionedd.
“Os wnewch chi roi’r ymdrech a’r amser iddo fe wnewch chi lwyddo.”
Gan nesáu’n gyflym at ddiwedd ei dridegau, nid yw Andy’n bwriadu arafu o gwbl.
“Yn amlwg byddwn wrth fy modd yn mynd i’r Gemau’r Gymanwlad nesaf (Birmingham),” meddai. “Bydd rhaid aros i weld beth fydd fy sefyllfa erbyn hynny. Gobeithio na fyddaf wedi arafu’n ormodol.
“Eleni rwyf wedi siarad gyda’r hyfforddwr ac rwy’n mynd i wneud llawer mwy o fynyddoedd. Yna gallwn ddechrau adeiladu at farathon arall a gobeithio gwneud Marathon Efrog Newydd ym mis Tachwedd.
“Bydd yr un fath â Glasgow, rwy’n gyfarwydd ag amodau gwlyb a gwyntog felly efallai bydd hynny o’n plaid ni!
“Rydyn ni’n dal i feddwl ei bod hi’n bosibl gwneud marathon 2:14, felly yr wyf am wneud un neu ddau marathon bob blwyddyn i geisio cyrraedd hynny.
“Ymhen 18 mis byddaf yn 40, felly mae llawer o recordiau rhedwyr hŷn i anelu atynt hefyd. Yn enwedig record marathon y rhedwyr hŷn y byddaf yn cadw llygad arni – 2:15:16.
‘Rwyf i bum eiliad o dan hynny ar hyn o bryd. Gobeithio y gallaf wella a chipio honno.”