Mae dau o sêr chwaraeon Cymru wedi’u cydnabod yn Seremoni Raddio flynyddol Grŵp Colegau NPTC a dyfarnwyd iddynt Gymrodoriaethau yn y seremoni a gynhaliwyd yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.
Rhannodd arwr byd rygbi Cymru Ryan Jones a seren pêl-rwyd Cymru Suzy Drane y llwyfan gyda mwy na 200 o raddedigion yn ystod 12fed seremoni raddio’r Coleg.
Daeth myfyrwyr o ar draws Grŵp Colegau NPTC – un o golegau mwyaf Cymru sy’n gwasanaethu cymunedau Castell-nedd Port Talbot, Powys, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr – at ei gilydd i ddathlu eu llwyddiant yng nghwmni eu ffrindiau a’u teuluoedd.
Yn ogystal â chynnig cyrsiau traddodiadol Safon Uwch a galwedigaethol ôl-16, mae’r Coleg yn ddarparwr allweddol o ran addysg oedolion ac mae’n darparu amrywiaeth eang o gyrsiau Diploma Cenedlaethol Uwch, Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Graddau Sylfaen a Graddau fel aelod llawn achrededig o Brifysgol De Cymru, y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr a Phrifysgol Abertawe.
Mae cyn Gymrodorion Anrhydeddus yn cynnwys Dr Geraint F Lewis; Ben Davies; Rob Davies; Nichola James; Y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Hain; Michael Sheen; Dan Lydiat; Olive Newton a Margaret Thorne, yn ogystal â Gaynor Richards MBE y dyfarnwyd iddi fedal y Canghellor yn 2012.
Cydnabuwyd y Cymrodorion eleni am eu llwyddiannau chwaraeon yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae Ryan Jones yn gyn-gapten ryngwladol rygbi’r undeb Cymru, ac yn Llew Prydeinig. Mae’n Bennaeth Cyfranogiad Rygbi dros Undeb Rygbi Cymru gyda’r nod o gael mwy o bobl i ymgysylltu â rygbi ar bob lefel gan gynnwys rygbi i bobl anabl, rygbi cyffwrdd a rygbi traeth.
Yn arweinydd ar y cae ac oddi arno, roedd Ryan yn dal y record am fod yn gapten ar Gymru 33 o weithiau. Nid yn unig y mae wedi arwain ei wlad yn erbyn rhai o’r gwrthwynebwyr anoddaf, mae hefyd wedi meistroli’r ddawn o weithio mewn cymunedau heriol gydag adnoddau cyfyngedig. Mae Ryan yn ymddiriedolwr ar gyfer Chwaraeon Anabledd Cymru ac yn codi arian yn gyson ar gyfer elusennau.
Suzy Drane yw capten hirsefydlog tîm pêl-rwyd rhyngwladol Cymru. Chwaraeodd am y tro cyntaf dros Gymru yn 2005 a daeth yn gapten pêl-rwyd ieuengaf erioed Cymru yn 23 oed. Mae Suzy wedi cynrychioli Cymru ar 95 achlysur. Roedd yn gapten ar Gymru pan wnaethant gyrraedd y seithfed safle ym Mhencampwriaethau’r Byd yn 2015 Sydney, sydd gyfwerth â’u safle gorau erioed mewn digwyddiad mawr.
Mae Suzy’n Llysgennad ar gyfer ‘Girls Together’. Yn arweinydd naturiol ar y cae ac oddi arno, mae Suzy yn uwch ddarlithydd mewn Datblygu Chwaraeon a Chwaraeon Perfformio ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, ac yn enghraifft o gryfder mewn pêl-rwyd yng Nghymru.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Ryan a Suzy eu bod wrth eu bodd i dderbyn Cymrodoriaeth Anrhydeddus, ond gan bwysleisio mai’r anrhydedd go iawn oedd cael rhannu’r llwyfan gyda gwir arwyr y dydd: y myfyrwyr oedd wedi gweithio mor galed er mwyn graddio.
Dywedodd Ryan: “Mae’n fraint cael derbyn y dyfarniad hwn gan Grŵp Colegau NPTC. Mae siarad â rhai o’r myfyrwyr sydd wedi graddio yma heddiw yn rhywbeth teimladwy iawn.”
Ychwanegodd Suzy, “Gwaith caled y myfyrwyr sy’n disgleirio yma heddiw, ac mae’n wych gallu rhannu eu llwyddiannau.”