Mae myfyrwyr yng Ngholegau’r Drenewydd a Bannau Brycheiniog (rhan o Grŵp Colegau NPTC) yn dathlu ar ôl cyflawni canlyniadau gwych yn eu Diplomâu Cenedlaethol Estynedig BTEC. Mae llawer wedi sicrhau lleoedd mewn prifysgolion ac wedi cael y cymwysterau i ennill eu swyddi delfrydol ar ôl llwyddo i sicrhau’r graddau yr oedd eu hangen arnynt.
Mae’r BTEC Lefel 3 yn cyfateb i dair Safon Uwch ac yn ddewis lwybr ar gyfer llawer o fyfyrwyr na all wynebu’r syniad o sefyll arholiadau ond sydd eisiau mynd i’r brifysgol neu ddilyn gyrfa.
Mae cymwysterau yn gofyn am ymrwymiad ac ymroddiad, ac maent yn seiliedig ar brofiad ymarferol a gwaith cwrs.
Ar draws y Grŵp, enillodd 90 o fyfyrwyr raddau rhagoriaeth driphlyg yn y cymwysterau Diploma Cenedlaethol Estynedig, gyda 28 o fyfyrwyr yn cyflawni’r proffil graddau uchaf posibl, sef D* D* D*. At hynny, llwyddodd mwy na 266 o fyfyrwyr yn eu Tystysgrif Her Sgiliau Cymhwyster Bagloriaeth Cymru â chyfradd lwyddo eithriadol o 94%. Ar gyfer y 13eg flwyddyn yn olynol, cyflawnodd myfyrwyr oedd yn sefyll eu Safon Uwch (Coleg Castell-nedd) gyfradd lwyddo o 99 y cant.
Dywedodd Mark Dacey, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Colegau NPTC: “Yr ydym wedi cael canlyniadau gwych ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau galwedigaethol yng Ngholegau y Drenewydd a Bannau Brycheiniog. Mae llawer wedi cyflawni’r graddau uchaf posibl ac rydym yn falch iawn eu bod yn awr yn gallu cyflawni eu potensial, a mynd ymlaen i gyflogaeth neu gael lleoedd yn y brifysgol.”
Bu rhai o’r myfyrwyr hynny yn ôl i’r Coleg i gasglu eu cymwysterau a dathlu eu llwyddiant ac maent yn cynnwys:
Iechyd a Gofal Cymdeithasol – BTEC Diploma Estynedig Lefel 3
Jade Jenkins-Griffiths: D*DD – yr hyn sy’n gwneud y cyflawniad hwn yn arbennig yw bod Jade wedi gofalu am ei merch a gweithio a chyflawni’r graddau uchaf. Bydd hi’n mynd i weithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Coral Jenkins: D*D*D*- mae Coral yn gyn-fyfyriwr Lefel 2 sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni ei chymhwyster Lefel 3 gyda’r graddau uchaf. Mae hi wedi cael ei derbyn i Brifysgol De Cymru i astudio ar gyfer gradd mewn Bydwreigiaeth.
Shannon Hamer: DDD – mae ganddi le wedi’i gadarnhau i fynd i Brifysgol Bangor i astudio Nyrsio Plant.
Eleanor Cochrane: D*D*D* – mae Elle yn mynd i Brifysgol Coventry i astudio ar gyfer gradd mewn Bydwreigiaeth.
Lois Bolton: D*DD – yn mynd i Brifysgol Abertawe i astudio am radd mewn Nyrsio Oedolion.
Seren Williams: DDD – yn mynd i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd i astudio am radd mewn Addysg, Seicoleg ac Anghenion Arbennig.
Tyler O’Gara: DDD – wedi graddio o Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae bellach yn chwilio am swyddi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Tricia Rees-Jones: D*DD – yn mynd i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i astudio ar gyfer gradd mewn Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig.
BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon (Datblygu, Hyfforddi a Ffitrwydd)
Sam Morris: D*D*D* – o’r Drenewydd sy’n mynd i Brifysgol De Cymru – Hyfforddi a Pherfformiad Pêl-droed.
Ffion Evans: D*D*D – o Lanidloes sydd wedi cael lle ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd i astudio Addysg Gorfforol a Chwaraeon.
Amaethyddiaeth – Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth
Kira Newey o Landinam wedi ennill Rhagoriaeth*. Olivia Bennett-Jones o Hodley a Gemma Price o Laithdu wedi ennill Rhagoriaeth.
Diploma Estynedig Gwasanaethau Cyhoeddus
Francesca Board D*D*D*- o Lanidloes, yn mynd i Brifysgol De Cymru i astudio Troseddeg, Cyfiawnder Troseddol ac Ieuenctid.
Rhiannon Mills D*D*D*- cafodd ei phen-blwydd yn 18 oed ym mis Gorffennaf. Mae hi yng nghamau cynnar gwneud cais ar gyfer yr orsaf dân wrth gefn ym Machynlleth. Mae hi’n mynd i barhau â’u hastudiaethau gyda’r Brifysgol Agored yn dechrau yn ddiweddarach eleni a’i nod yw ymuno â’r Heddlu.
Diploma Estynedig TG
Brandon Pratten: D*D*D*- o’r Drenewydd, yn cymryd blwyddyn i ffwrdd ac yna’n mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Anthony Andrews: D*D*D*- o Aberhonddu. Golyga hyn fod Anthony nawr yn gadael y Coleg gyda gradd gyffredinol o ragoriaeth driphlyg serennog, a bydd yn mynd ymlaen i astudio am radd mewn Technoleg Cerddoriaeth.
Nid Anthony yw’r unig fyfyriwr i fwynhau llwyddiant. Mae’r holl fyfyrwyr wedi cwblhau eu cyrsiau gyda chanlyniadau rhagorol.
Bydd rhai yn aros i barhau â’u hastudiaethau yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, gydag eraill yn symud ymhellach i ffwrdd i astudio ar lefel Addysg Uwch.