Mae myfyriwr William Daniel Jones, sydd newydd gwblhau’r BTEC a NVQ Lefel 3 ym maes Peirianneg Sifil gyda Grŵp Colegau NPTC a CITB, wedi derbyn y wobr o fri gan y Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.
Cyflwynwyd y gwobrau gan y gŵr lifrai Bob Clarke ar ran y Cwmni Anrhydeddus Lifrai. Mae’r wobr yn anelu at adnabod a meithrin talent Cymru a hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth a thechnoleg, gyda phwyslais arbennig ar hybu sgiliau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau proffesiynol yng Nghymru.
Enwebwyd William, neu Dan, fel y’i gelwir ef, ar gyfer y wobr gan Clare Ward, Swyddog Prentisiaethau CITB. Roedd Dan yn gyn-fyfyriwr ar gwrs gwaith brics yng Ngholeg Bannau Brycheiniog ac wedyn treuliodd beth amser yn weithiwr hunangyflogedig cyn cychwyn ar y llwybr prentisiaeth mewn Peirianneg Sifil. Cwblhaodd ei dysgu seiliedig ar waith gydag Adran Priffyrdd Cyngor Sir Powys. Roedd Dan wrth ei fodd i gael ei ddewis ar gyfer y dyfarniad a bydd yn camu ymlaen i HNC mewn Peirianneg Sifil nesaf.
Dywedodd Clare Ward: “Roedd Dan yn ymgeisydd rhagorol oherwydd ei waith caled a dangosodd frwdfrydedd ac ymrwymiad eithriadol i’w brentisiaeth CITB.”
Dywedodd Peter Snowball, Pennaeth Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu yng Ngrŵp Colegau NPTC: “Rydyn ni’n falch iawn o allu cynnig yr hyfforddiant hwn gyda diwydiant lleol megis Cyngor Sir Powys. Rydyn ni’n gobeithio datblygu’r bartneriaeth rhyngon ni a Chyngor Sir Powys ochr yn ochr â CITB.”