Mae cyn-fyfyriwr Grŵp Colegau NPTC wedi derbyn Gwobr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru 2018 i gydnabod llwyddiant academaidd a phersonol.
Cwblhaodd Lauren Evans Ddiploma Estynedig BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Afan ym mis Gorffennaf, gan ennill gradd rhagoriaeth driphlyg arbennig, a nawr mae’n mynd ymlaen i astudio Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe.
Daeth Margaret Davies o Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru i Goleg Afan i gyflwyno’r Wobr Ysgolion am y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg i Lauren, ynghyd â siec am £250 tuag at lyfrau a deunyddiau cwrs.
Dywedodd Cydgysylltydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Sarah Mellor:
“Mae’r wobr hon yn dyst i waith caled ac ymroddiad Lauren. Yr wyf yn falch iawn o’r hyn mae Lauren wedi’i gyflawni gyda ni, a’r hyn yr wyf yn gwybod y bydd hi’n mynd ymlaen i’w gyflawni yn y brifysgol. Dymunwn iddi bob llwyddiant ar gyfer y dyfodol.”
Wrth siarad ar ôl derbyn ei gwobr, meddai Lauren:
“Yr wyf yn hynod o falch i dderbyn y wobr hon, ond ni allwn fod wedi cyflawni fy nghanlyniadau heb gymorth yr holl ddarlithwyr yn y Coleg. Edrychaf ymlaen at roi’r hyn yr wyf wedi’i ddysgu ar waith yn y brifysgol.”
Eglurodd Margaret Davies:
“Nod sylfaenol Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yw hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a’r celfyddydau yng Nghymru. Un o’r ffyrdd rydym yn gobeithio gwneud hyn yw drwy ein Gwobrau Ysgolion a gyflwynir i fyfyrwyr sydd wedi sicrhau canlyniadau rhagorol, a hynny’n aml mewn amgylchiadau anodd. Mae Lauren wedi dangos drwy ei gwaith caled a’i chanlyniadau arholiadau rhagorol ei bod yn enillydd teilwng y wobr eleni, a dymunaf bob llwyddiant iddi yn ei hastudiaethau a’i gyrfa yn y dyfodol.”
Ffurfiwyd Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yn wreiddiol fel Urdd Lifrai Cymru ym 1993 gan aelodau Cwmnïau Lifrai Dinas Llundain a oedd yn dymuno ymestyn traddodiadau’r Lifrai yng Nghymru, gan wobrwyo myfyrwyr dawnus i’w hannog i ddatblygu eu sgiliau mewn Addysg Uwch a Chyflogaeth.
Ychwanegodd Carol Evans, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Iechyd, Cymdeithasol a Gofal Plant:
“Diolch i Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru am barhau i gefnogi’r Coleg ac am gydnabod yr ymdrechion a wnaed gan Lauren yn ei hastudiaethau. Ar ran yr Ysgol a’r Coleg, dymunaf y gorau i Lauren yn ei hastudiaethau yn y dyfodol.”