Dewiswyd Alumni Grŵp Colegau NPTC, y weldiwr Declan Kenny, i gwblhau’r uniad pibell cyntaf wrth adeiladu pwerdy niwcliar Hinkley Point C.
Rhoddodd ei gyflogwr Boccard, cwmni blaenllaw ym maes rheoli gosodiadau diwydiannol, yr anrhydedd iddo o gwblhau’r gwaith weldio cyntaf ar ran y tîm, yn dilyn ei lwyddiant yn 2017 yng nghystadleuaeth WorldSkills SkillWeld 2017 yn Birmingham, lle yr enillodd fedal arian. Cafodd ei goroni yn Weldiwr Ifanc Gorau Cymru yn Rownd Derfynol Cymru WorldSkills y flwyddyn flaenorol. Cwblhaodd Declan Ddiploma Uwch lefel 3 mewn Gwneuthuriad Peirianneg a Weldio, wedi’i drefnu drwy tîm dysgu seiliedig ar waith y Coleg, Hyfforddiant Pathways a’r Adran Peirianneg, yn 2017.
Bydd y pibellau yn rhan o system awyru a draenio niwcliar yn y gwaith, y disgwylir iddo agor yn 2025 a darparu 7% o anghenion trydan y DU am 60 mlynedd. Ar hyn o bryd, mae dros 3,200 o bobl yn gweithio ar y prosiect.
“Roedd yn gyfle gwych i gwblhau’r gwaith weldio cyntaf,” meddai Declan. “Mae llawer rhagor i’w wneud, er hynny – dim ond y dechrau yw hyn.”
Dywedodd Carl James, Pennaeth yr Ysgol: Peirianneg: “Mae’n wych gweld Declan yn creu gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant weldio, gan adeiladu ar y sylfeini a osodwyd yma yng Ngrŵp Colegau NPTC. Mae’r ffaith bod ei gyflogwr wedi cydnabod ei lwyddiant a rhoi yr anrhydedd hon iddo yn dystiolaeth bellach o sgiliau ac ymrwymiad Declan i’w grefft. Mae gan Declan ddyfodol disglair o’i flaen a megis dechrau ydyw; dymunwn pob llwyddiant iddo.”