I ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae staff yng Ngrŵp Colegau NPTC wedi mwynhau cyfres o sesiynau llesiant yng Ngholeg Castell-nedd.
Cynhaliodd Canolfan Magnolia er Iechyd a Llesiant yng Nghastell-nedd gyfres o weithdai drwy gydol y dydd gan gynnwys Adweitheg, Tylino Pen Indiaidd, Ymwybyddiaeth Ofalgar a Myfyrdod, Therapi Celf a Hyfforddiant Canolbwyntio’r Meddwl.
Dywedodd Hannah Booth o Magnolia:
“Rydym wedi cael diwrnod gwych yng Ngrŵp Colegau NPTC heddiw yn cyflwyno diwrnod llesiant i staff fel rhan o gydnabyddiaeth y Coleg o Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd.”
Dywedodd Melanie Dunbar, Rheolwr Adnoddau Dynol Grŵp Colegau NPTC:
“Nod y sesiynau hyn yw cynnig blas i staff ar y gwasanaethau a therapïau niferus y mae Magnolia yn eu cynnig yn eu Canolfan Iechyd a Llesiant, wrth hyrwyddo technegau lleihau straen ac ymwybyddiaeth ofalgar i’n staff.
“Fel Coleg, rydym yn gwbl ymrwymedig i addewid Amser i Newid Cymru ac yn ymroddedig i godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl gyda staff a myfyrwyr. Nod y gwaith yr ydym yn ei wneud gyda Chanolfan Magnolia yw tynnu sylw at sut y gall ymwybyddiaeth ofalgar a rhyddhau straen gefnogi iechyd meddwl cadarnhaol.”