Mae Rhaglen Hyfforddeiaeth Ymgysylltu gyda Hyfforddiant Pathways, adran dysgu seiliedig ar waith Grŵp Colegau NPTC wedi gweddnewid bywyd Josie Pether.
Mae gan Josie, 19, o Glyn-nedd awtistiaeth a gall newidiadau yn ei bywyd, yn enwedig cyfarfod pobl newydd achosi gofid ac ymosodiadau panig.
Diolch i Hyfforddiant Pathways, mae hi wedi cael lleoliad gwaith manwerthu yn Ymddiriedolaeth Shaw, elusen genedlaethol sy’n helpu pobl i ddechrau gweithio, ennill addysg, datblygu eu gyrfa, gwella eu llesiant ac ailadeiladu eu bywydau.
Bellach mae siwrnai ddysgu Josie wedi’i gydnabod wrth iddi gael ei henwi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd hi’n cystadlu i ennill Hyfforddeiaeth Ddysgu (Ymgysylltu) y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo o fri yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.
Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygu Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru.
Wedi’u trefnu gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â’r Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), cefnogir y wobr o fri gan bartner y cyfryngau, Media Wales. Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae tri deg o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu disglair ar draws Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.
Mwynhaodd Josie ei lleoliad yn Ymddiriedolaeth Shaw cymaint nad oodd hi wedi colli un diwrnod o gwbl yn ystod cyfnod o bum mis a nawr mae hi wedi camu ymlaen i i’r rhaglen Hyfforddeiaeth Lefel 1 ym maes manwerthu. Gyda hwb i’w hyder, mae hi bellach yn gweithio ar lawr y siop ac yn defnyddio’r til, sy’n newid dramatig o ystyried y ffaith na allai hi wneud cyswllt llygaid o gwbl pan ddechreuodd hi.
Mae ganddi grŵp o ffrindiau agos yn Ymddiriedolaeth Shaw ac mae hi wedi ennill sgiliau newydd a fydd yn arwain gobeithio at gyflogaeth amser llawn yn y dyfodol.
“Mae pawb wedi bod mor gefnogol ac yn amyneddgar tuag ata i,” dywedodd Josie. “Gyda’u cymorth ac anogaeth, dwi’n ennill hyder a sgiliau newydd. Dwi’n falch fy mod i wedi penderfynu ymuno ag Hyfforddiant Pathways gyda lleoliad yn Ymddiriedolaeth Shaw am fod y ddau sefydliad wedi fy helpu mewn ffyrdd gwahanol ac wedi newid fy mywyd er gwell.”
Dywedodd Lee Roberts, Cynghorydd Hyfforddiant Pathways, Grŵp Colegau NPTC bod Josie yn enghraifft berffaith o sut gall y rhaglen Hyfforddeiaeth Ymgysylltu weithio gydag unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol neu faterion yn ymwneud â hyder a sgiliau cymdeithasol.
“Yn yr achos yma, yn ogystal â galluogi Josie i symud ymlaen i lefel addysg uwch, mae hefyd wedi caniatáu iddi oresgyn y materion hynny sydd wedi ei phlagio am y rhan fwyaf o’i bywyd,” ychwanegodd. “Dwi’n hynod o falch o Josie a hoffwn ddymuno pob lwc iddi hi yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Ian Jones, Rheolwr Hyfforddiant Pathways Grŵp Colegau NPTC:
” Rydyn ni i gyd yn hynod o falch o Josie, mae wedi bod yn bleser i fod yn rhan o’i daith a’i dilyniant. Mae’r enwebiad yma yn tystio, nid yn unig i waith caled a phenderfyniad Josie ond hefyd i’r cymorth, arweiniad ac anogaeth y mae’r tîm Hyfforddiant Pathways bob amser yn eu rhoi i’n holl brentisiaid.”
Wrth longyfarch Josie ar gael ei henwi ar y rhestr fer i dderbyn gwobr, dywedodd Eluned Morgan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn arddangos llwyddiant rhaglenni Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru a chyflawniadau ein prentisiaid, cyflogwyr, darparwyr dysgu a hyfforddeion disglair.
“Mae prentisiaethau yn ffordd wych i unigolion ennill sgiliau gwerthfawr a phrofiad, wrth ennill cyflog ar yr un pryd a dull i gyflogwyr sicrhau bod gan eu gweithlu’r sgiliau i ddiogelu dyfodol eu busnesau.
“Nid yw cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau sydd o fudd i Gymru gyfan erioed wedi bod yn bwysicach.”