Llwyddodd Alice Yeoman myfyriwr yng Ngholeg Y Drenewydd i ennill lle yn rownd derfynol y gystadlaeth genedlaethol o fri WorldSkills UK eleni a gynhaliwyd yn Birmingham.
Alice sy’n 19 oed o Borth oedd yr unig ymgeisydd o Gymru i gyrraedd y rownd derfynol i gystadlu yn erbyn yr arbenigwyr iau yn y celfyddydau coginio o ledled y DU, o flaen dros 70,000 o ymwelwyr yn Worldskills UK LIVE. Mae’r digwyddiad a gynhaliwyd yn y NEC, yn un o’r digwyddiadau mwyaf ym meysydd prentisiaethau sgiliau a gyrfaoedd sgiliau mwyaf.
Treuliodd Alice lawer o amser y tu allan i’r coleg a’i swydd yng Ngwesty’r Wynnstay Machynlleth yn cynllunio ac ymarfer ar gyfer y digwyddiad.
Disgrifiodd Alice y digwyddiad gan ddweud: ‘ Mae wedi bod yn brofiad mor anhygoel. Yn anffodus, wnes i ddim ennill medal y tro hwn ond mae mwy o hunan hyder a mwy o sgiliau nag erioed ‘da fi a dw i wedi gwneud atgofion gwych ar hyd y ffwrdd hefyd.’
Roedd yn rhaid i Alice gystadlu yn erbyn 150 o ymgeiswyr am le a chyrhaeddodd y 10 uchaf.
Aeth Alice ymlaen i ddweud: ‘Dw i mor ddiolchgar am gefnogaeth anhygoel fy narlithydd yng Ngholeg Y Drenewydd Shaun Bailey a Gareth Johns fy nghyd-weithiwr yn y gwaith, mae eu hysbrydoliaeth a’u hanogaeth wedi bod yn ffantastig’.
Dywedodd y Darlithydd Arlwyo Shaun Bailey: ‘ Mae wedi bod yn gyfle gwych i Alice ac rwy’n teimlo mor falch o’i chyflawniadau a’i holl waith caled.
Pan ofynnwyd iddi ba gyngor y byddai’n ei roi i unrhyw un a oedd yn meddwl am ddilyn yr un llwybr, dywedodd Alice: ‘ Dw i’n gallu argymell adran arlwyo Coleg Y Drenewydd i unrhyw berson ifanc sy’n meddu ar angerdd tuag at y celfyddydau coginio ac arlwyo ac unrhyw fyfyrwyr presennol sydd yno ac yn meddwl am waith gystadleuaeth. Byddwch yn ddewr ac ewch ati! Hoffwn hefyd ddweud llongyfarchiadau enfawr i Chloe Lloyd-Hughes a enillodd fedal aur a oedd mor haeddiannol ‘.
Cynhelir cystadlaethau WorldSkills UK mewn mwy na 60 maes sgiliau ac mae tystiolaeth sy’n profi eu bod yn helpu pobl i fynd ymhellach ac yn gyflymach yn eu hyfforddiant a’u dewis gyrfa.
Dywedodd Dr Neil Bentley, Prif Weithredwr, Worldskills UK: ‘ Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran. Roedd y gystadleuaeth yn ffyrnig, ac roedd y safonau yn uchel iawn. Mae ein cystadlaethau’n arfogi prentisiaid a myfyrwyr gyda sgiliau gydol oes o’r radd flaenaf a fydd yn gwella safonau hyfforddi i’r radd uchaf i helpu i gynyddu cynhyrchiant a chystadleurwydd yn y DU.
Bydd enillwyr Worldskills UK yn cael eu gwahodd i ymuno â’r rhaglen hyfforddi ar gyfer WorldSkills Shanghai 2021, lle y gellir cael eu dewis i gynrychioli’r DU ar lwyfan byd-eang.
Os oes gennych chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod ddiddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant arlwyo, ewch i’n gwefan i weld pa gyrsiau sydd ar gael: www.nptcgroup.ac.uk neu ffoniwch 01686 614289.