Mae staff yng Ngrŵp Colegau NPTC wedi bod wrthi’n datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Mae’r cwrs Croeso wedi annog staff i wella’u sgiliau iaith Gymraeg yn y gweithle drwy ymgysylltu â chydweithwyr, myfyrwyr a rhanddeiliad yn ddwyieithog.
Cafodd y cwrs ar-lein, a ddosbarthwyd ar yr un pryd â Safonau’r Iaith Gymraeg, ymateb cadarnhaol, gyda 83% o staff yn cwblhau’r cwrs.
Croesawodd Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC Mark Dacey y cyfle i annog hyd yn oed myw o ddefnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ynghyd ag ymgorffori ethos dwyieithog ar draws y Coleg. Dywedodd: “Mae’r Safonau Iaith Gymraeg yn sefydlu hawliau cyfartal i siaradwyr Cymraeg a siaradwyr Saesneg. Mae’r Safonau’n cwmpasu meysydd polisi allweddol a gweithgareddau gweinyddol megis gohebiaeth, galwadau ffôn, dogfennau, gweithdrefnau, cyhoeddusrwydd ac arwyddion.”
Gwnaeth y nifer o staff a gwblhaodd y cwrs argraff fawr ar Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd. Dywedodd: “Cynigiwyd sesiynau hyfforddi i benaethiaid ysgolion, rheolwyr, darlithwyr a staff cymorth ym mis Gorffennaf, gyda phob aelod o staff yn cael y cyfle i gwblhau’r cwrs ar-lein.”
Roedd Angharad Morgan, Cydgysylltydd Datblygu Dwyieithog yn gyfrifol am hyrwyddo’r cwrs i staff ar raddfa ehangach. Dywedodd hi: “Yr hyn a oedd yn allweddol i lwyddiant y cwrs oedd gweithio’n agos gydag Adnoddau Dynol a Datblygu Staff i hyrwyddo a monitro cyfraddau cwblhau.”
Yn dilyn llwyddiant y cwrs Croeso/Welcome, mae’r Coleg yn bwriadu cynnig cwrs atodol o’r enw ‘‘Croeso ‘Nôl/Welcome Back’ ar gyfer staff sydd eisoes wedi cwblhau’r cwrs cyntaf, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg mewn ffordd syml, llawn hwyl.