Cyfareddodd myfyrwyr Academi Cerddoriaeth Grŵp Colegau NPTC y gynulleidfa yn Eglwys Dewi Sant yng Nghastell-nedd gyda noson ffantastig o gerddoriaeth fyw y gwerthwyd pob tocyn ar ei chyfer.
Roedd Gŵyl Gerdd y Gaeaf yn arddangos talentau pob myfyriwr yr Academi Cerddoriaeth gan gynnwys cyrsiau galwedigaethol a grwpiau allgyrsiol.
Roedd y perfformiadau ar y noson yn cynnwys côr, côr siambr, cerddorfa lawn, ensemble siambr, ensemble jazz, band sioe, ensemble pres, pedwarawd jazz gyda pherfformiadau gan ddeuawd a thriawd ychwanegol.
Defnyddiwyd y noson hefyd i arddangos storïau am lwyddiannau disgleiriaf yr Academi Cerddoriaeth.
Dywedodd darlithydd cerddoriaeth, Carolyn Davies a drefnodd y noson: “Mae ein myfyrwyr yn lwcus i gael eu dysgu gan hyfforddwyr lleisiol ac offerynnol hynod o dalentog. Mae’r gyngerdd hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr chwarae mewn cyngerdd ar raddfa fawr sy’n cynnwys popeth o Prokofiev i Pink Floyd a llawer mwy hefyd. ”
Dywedodd Vicky Burroughs, Pennaeth Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio “Mae ein Gŵyl Gerdd y Gaeaf yn arddangosfa wych o dalent y myfyrwyr drwy gynrychioli’r amrywiaeth o gyrsiau a chyfleoedd allgyrsiol sydd ar gael yn yr Academi Cerddoriaeth. Mae cynnal y gyngerdd ar adeg hon y flwyddyn, mewn lleoliad anhygoel fel Eglwys Dewi Sant, dim ond yn ychwanegu at yr awyrgylch.”
Yn ystod y noson, cynhaliwyd casgliad i godi arian i’w roi i gartref gofal Baglan Lodge a Brass for Africa.