Croesawodd Grŵp Colegau NPTC David Andrews, Rheolwr Gyfarwyddwr Vigilance Group, i gyflwyno dillad ac offer proffesiynol i’r myfyrwyr Peirianneg yn ddiweddar.
MACH Machine Tools, sy’n rhan o Vigilance Group, yw prif noddwyr y coleg ar gyfer y myfyrwyr Peirianneg Fecanyddol, gan eu cynorthwyo gydag oferôls a chrysau-t ynghyd ag offer peirianyddol arall.
Mae’r adran Peirianneg tra fodern sydd wedi’i lleoli yng Ngholeg Castell-nedd eisoes yn cynnwys amrywiaeth o offer arbenigol, gyda chyfres gyfan o beiriannau melino a thurnio â llaw Mach.
Dywedodd James Llewellyn, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Peirianneg, “Mae’r adran peirianneg yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant i sicrhau ein bod yn cynhyrchu myfyrwyr medrus iawn sy’n barod ar gyfer y gweithle. Mae gallu hyfforddi myfyrwyr gydag offer o’r radd flaenaf megis Mach yn wych ac mae’n fonws mawr i’r myfyrwyr dderbyn dillad gwaith.”