Myfyrwyr yng Ngholeg Pontardawe, rhan o Grŵp Colegau NPTC, yw’r cyntaf yn y DU i gwblhau cymhwyster hyfforddiant gosod drysau tân y DU.
Yn gynharach eleni, lansiodd y Ffederasiwn Gwaith Coed Prydeinig (BWF), mewn partneriaeth â Grŵp Colegau NPTC, gymhwyster newydd yn benodol i dargedu gosod drysau tân yn y DU.
Dysgwyr o Gartrefi Dinas Casnewydd a Chymdeithas Tai Teulu (Cymru), oedd y cyntaf yn y DU i gwblhau’r cwrs ‘Gosod Gosodiadau a Setiau Drysau Pren Gwrth-dân yn y Gweithle’.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i fod yn gyflwyniad ymarferol i osod drysau tân a bydd yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys: gosod drysau tân, fframiau drysau tân a leininau; deall a gosod nwyddau haearn a seliau drysau tân; cynnwys agorfeydd a rheoliadau tân cysylltiedig sy’n ymwneud â gosod gwydr; ac effeithiau defnydd ar berfformiad drysau tân.
Mae Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC, Mark Dacey, yn falch o gefnogi’r cymhwyster.
Dywedodd: “Mae drws tân yn ddyfais ddiogelwch hanfodol a luniwyd i arbed bywydau ac eiddo. Bydd y Certifire BWF yn atgyfnerthu arferion gwaith diogel ymhlith y diwydiant a galluogi addysg bellach i ddarparu hyfforddiant cyfannol yn y cynllun i gefnogi’r sector.”
Mae’r cymhwyster ar gael fel uned ddewisol ar gyfer prentisiaid gan Grŵp Colegau NPTC yn ogystal â chwrs dau neu dri diwrnod wedi’i anelu at grefftwyr profiadol. Mae hefyd yn darparu mecanwaith i Ddrysau Tân gael eu cynnwys ar y cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS), a ddefnyddir ar safleoedd adeiladu mwy i ddangos cymwyseddau unigol.
Bwriedir cynnal dathliad yn y Senedd yn 2019, i gydnabod y gwaith caled a wnaed a’r cymorth a ddarparwyd er mwyn gwireddu’r hyfforddiant cymeradwy arloesol hwn.
Bu Gareth Jones, Uwch Syrfewr yn Tai Teulu Cymru yn canmol y cyfle hyfforddiant newydd: “Roedd yr hyfforddiant yn fuddiol iawn. Nawr mae gennym well ddealltwriaeth am faterion cydymffurfio ynghylch Drysau Tân, a bydd yr hyfforddiant yn ein helpu i drechu heriau presennol a rhai’r dyfodol.”
Cefnogwyd myfyrwyr o Gartrefi Dinas Casnewydd a Chymdeithas Tai Teulu (Cymru) gan y prosiectau Upskilling@Work a Sgiliau ar gyfer Diwydiant.
Mae cyllid ar gael trwy’r prosiectau Upskilling@Work a Sgiliau ar gyfer Diwydiant a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a gynlluniwyd i wella sgiliau a chynyddu cynhyrchiant yn y gweithlu.
Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy am Sgiliau ar gyfer Diwydiant ac Upskilling@Work.