Cafodd dau fyfyriwr o Grŵp Colegau NPTC eu cydnabod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot am eu cyfraniad at ennyn diddordeb pobl ifanc lleol mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Cafodd Corey Dyer sef Alumni Grŵp Colegau NPTC a oedd yn gyn-fyfyriwr Chwaraeon ei enwebu ar gyfer y wobr ‘Llysgennad Ifanc y Flwyddyn mewn cydweithrediad ag adran chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (NPT Pass) a Dewch yn Actif NPTC (Menter iechyd a llesiant y Coleg). Cafodd Corey, sydd bellach yn astudio Chwaraeon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, ei wobrwyo am ei gyfraniad eithriadol i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn gweithgarwch corfforol yn ystod ei rôl wirfoddol fel Llysgennad Ifanc Aur gyda NPT Pass
Mae myfyrwyr presennol Michael Bevan, sy’n astudio Chwaraeon Lefel 3 mewn Perfformiad a Rhagoriaeth yn Academi Chwaraeon Llandarcy hefyd wedi’i gydnabod. Cafodd ei enwebu ar gyfer gwobr ‘Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn’, am ei gyfraniad eithriadol i wirfoddoli gyda chlybiau amrywiol ar ôl ysgol a thimau chwaraeon yn y gymuned leol. Mae Mike yn Llysgennad Ifanc Aur gyda NPT Pass ac ar hyn o bryd ac mae e’n wirfoddolwr ar y rhaglen Dewch yn Actif yng Ngrŵp Colegau NPTC.
Mae Lindsay Piper, Uwch Swyddog Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Llesiant yng Ngrŵp Colegau NPTC yn goruchwylio’r rhaglen Dewch yn Actif ac mae hi’n hynod o falch o’i myfyrwyr, sy’n haeddiannol iawn o gael yr enwebiadau hyn yn ei barn hi. Dywedodd hi; “Mae gwirfoddolwyr yn fywyd ac enaid chwaraeon cymunedol a’n rhaglen Dewch yn Actif yng Ngrŵp Colegau NPTC. Mae amser, egni ac ymroddiad gwirfoddolwyr fel Corey a Mike wedi galluogi ein myfyrwyr nad ydynt yn astudio chwaraeon i gael blas ar amrywiaeth eang o chwaraeon cyffrous ar yr un pryd â chynyddu’r nifer o fyfyrwyr ar draws ein safleoedd sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. A heb ymdrech gwirfoddolwyr yn ein cymunedau, ni fyddai chwaraeon llawr gwlad yn digwydd. Rydym yn hynod o ddiolchgar am yr ymrwymiad y maent wedi’i rhoi i raglen Dewch yn Actif NPTC.”
Cliciwch YMA i gael gwybod mwy am y Cynllun Llysgenhadon Ifanc NPT Pass.
Cliciwch YMA i weld ein hystod o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ym meysydd Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus.