Mae darlithydd cerddoriaeth Grŵp Colegau NPTC Carolyn Davies yn ysbrydoliaeth wirioneddol ac mae ei gwaith caled a’i hymroddiad wedi’i gydnabod gan un o brifysgolion gorau’r byd.
Mae Carolyn wedi ennill Gwobr Athrawon Ysbrydoledig Prifysgol Rhydychen, yn dilyn enwebiad gan y cyn-fyfyriwr Abi Owen a bydd yn ei derbyn mewn cyflwyniad arbennig yn y sefydliad mawreddog ym mis Mai.
Mae Carolyn, sy’n addysgu Cerddoriaeth Safon Uwch, BTEC Lefel 3 a HND Cerddoriaeth, hefyd yn rhedeg holl ddarpariaeth cerddoriaeth allgyrsiol Coleg Castell-nedd, yn trefnu teithiau cerddoriaeth blynyddol dramor ac yn trefnu bod myfyrwyr yn cymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws y DU. Aeth yr ail filltir i helpu Abi i ennill lle yn Rhydychen ac mae hynny’n rhywbeth na fydd y cyn-fyfyriwr byth yn ei anghofio.
“Tra’n addysgu ei darlithoedd, trefnu cyngherddau, asesu perfformiadau, rhedeg gweithgareddau allgyrsiol a chael anhawster gyda’i hiechyd ei hun, gwnaeth yn siŵr roedd gen i bob amser bopeth oedd ei angen arnaf er mwyn hwyluso fy nysgu fy hun ac roedd bob amser ar ben arall yr e-bost os oedd gennyf unrhyw gwestiynau, bob awr o’r dydd.
“Mae hi bob amser wedi rhoi o’i hamser a’i hymroddiad i bob un disgybl oedd ei angen. Ochr yn ochr â fy nghynorthwyo yn fy nhaith i Rydychen, mae Carolyn yn helpu i hwyluso pob disgybl cerddoriaeth yng Ngrŵp Colegau NPTC, o’r rhai sy’n mynd i’r brifysgol, i’r rhai sy’n cychwyn ar yrfa seiliedig ar berfformio. Gyda channoedd o ddisgyblion nid yw erioed wedi digalonni rhywun na rhoi llai na 100 y cant o ran agwedd gadarnhaol ac ysbrydoliaeth.”
Bwriad y Wobr Athrawon Ysbrydoledig yw cydnabod y rôl hollbwysig y mae athrawon yn ei chwarae wrth annog myfyrwyr dawnus. Gofynnwyd i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn Rhydychen (a ddaeth o ysgolion neu golegau ag ychydig yn unig o hanes neu draddodiad o anfon myfyrwyr i’r Brifysgol) enwebu athro a’u hysbrydolodd i wneud cais i Rydychen.
Yn ei chyflwyniad, dywedodd Abi, a gafodd raddau ardderchog yn ei Safon Uwch oedd yn cynnwys Drama ac Astudiaethau Theatr, Cerddoriaeth, Mathemateg a Saesneg Llenyddiaeth, ac y mae nawr yn astudio Cerddoriaeth yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen: “Pryd bynnag yr oeddwn yn diolch iddi am ei holl waith caled a’u hymroddiad byddai hi bob amser yn ateb ‘diolcha i ti dy hun, ni wnes i unrhyw beth, ti wnaeth y cwbl.’ Athrawon fel Carolyn gyda’u gwaith caled a’u hymroddiad i ddisgyblion, fel fi, sydd eisiau mynd ymhellach, yw’r union reswm y mae myfyrwyr o ysgolion y wladwriaeth yn Rhydychen o gwbl. Does gen i ddim amheuaeth heb Carolyn ni fyddwn i yma heddiw.
“Mae Carolyn yn arwres a mawr obeithiaf y bydd y wobr hon yn ymgais i fynegi fy niolch i athrawes sydd wedi fy helpu i, a phob myfyriwr cerddoriaeth yng Ngrŵp NPTC i gyflawni eu nodau.”
Dywedodd Carolyn ei bod yn falch: “Rwy’n dal i ddweud bod ei llwyddiant yn ganlyniad i’w hymrwymiad a’i hymroddiad. Abi a llawer o’r myfyrwyr talentog eraill yn yr Academi Cerddoriaeth yw fy ysbrydoliaeth. Mae’n fraint fawr ac rwy’ wrth fy modd i dderbyn y wobr hon a hoffwn ddiolch i Abi a llawer o’r myfyrwyr cerddoriaeth talentog eraill yn yr Academi Cerddoriaeth am eu hymroddiad a’u hysbrydoliaeth. Yr wyf yn ffodus i gael cymorth Vicky Burroughs, Pennaeth yr Ysgol ac wrth gwrs y tîm gwych o ddarlithwyr a thiwtoriaid offerynnol a lleisiol gwadd sy’n ardderchog. Mae popeth a gyflawnir yn yr Academi Cerddoriaeth oherwydd ein bod yn dîm mor wych! Diolch i chi i gyd – y myfyrwyr a thîm yr Academi Cerddoriaeth.”
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, Vicky Burroughs ei bod wrth ei bodd dros Carolyn gan fod ei chefnogaeth, anogaeth ac ymroddiad diflino i’w myfyrwyr wedi’u cydnabod yn ffurfiol.
Dywedodd: “Addysgu cerddoriaeth yw galwedigaeth Carolyn mewn bywyd ac mae’r amser a’r cyfleoedd y mae’n eu darparu i’w myfyrwyr o’r radd flaenaf. Mae Carolyn yn gweld y potensial ym mhob un o’i myfyrwyr ac mae Gwobr Athrawon Ysbrydoledig Prifysgol Rhydychen wir yn dathlu gwaith rhagorol Carolyn fel Darlithydd Cerddoriaeth.”