Mae Grŵp Colegau NPTC a Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (WGU) wedi cael cyllid yn ddiweddar o dan y rhaglen cynllun peilot gradd-brentisiaethau newydd ar gyfer Cymru. Gan adlewyrchu anghenion sgiliau Cymru, gofynnwyd i brifysgolion a sefydliadau eraill sy’n dyfarnu graddau ddylunio cyfres newydd o raglenni digidol i alluogi sefydliadau yng Nghymru i wella sgiliau eu gweithwyr presennol neu recriwtio talent newydd mewn meysydd megis Peirianneg Meddalwedd, Seiberddiogelwch a Gwyddor Data ar gyfer y Fframwaith Gradd-brentisiaethau Digidol newydd.
Mae’r Sector Digidol yn un o sectorau twf allweddol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn y Gogledd. Mae’r rhaglenni gradd-brentisiaethau’n cydnabod y pwyslais ar a’r gofyn am well gwybodaeth dechnolegol a digidol ymhlith y gweithlu yng Ngogledd Cymru ac maent yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol ar gyfer Cymru gyfan.
Datblygwyd dwy o raglenni gradd newydd gan WGU a Grŵp Colegau NPTC ar y cyd ar gyfer y Llwybr Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol a Rheoli Seiberddiogelwch Cymhwysol mewn ymagwedd Cymru gyfan a fydd yn dechrau ym mis Ebrill 2019. Mae’r galw gan gyflogwyr wedi bod yn uchel ar gyfer y rhaglenni hyn, yn amrywio o gwmnïau amlwladol byd-eang i Fusnesau Bach a Chanolig (SME’s) lleol.
Dywedodd y Dirprwy Is-ganghellor, Dr Aulay Mackenzie:
“Mae’r rhaglen hon yn adlewyrchu anghenion y diwydiant wrth gymhwyso grym technoleg ddigidol i barhau i dyfu economi Cymru. Mae WGU mewn partneriaeth â Grŵp Colegau NTPC yn falch o fod yn un o’r prifysgolion cyntaf yng Nghymru i dderbyn y cyllid hwn ac edrychant ymlaen at y rhaglenni hyn yn dechrau ym mis Ebrill. Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn ein rhanbarth ac yn gyfle gwych i gwmnïau allu datblygu galluoedd digidol eu gweithluoedd hyd at lefel gradd.”
Dywedodd Richard Tong, Pennaeth Cynorthwyol: Addysg Uwch: Grŵp Colegau NPTC:
Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch iawn o allu gweithio gyda WGU i ddarparu cyfleoedd i gwmnïau lleol yn Nhe Cymru i uwchsgilio eu gweithlu pellach drwy gyfrwng gradd-brentisiaethau mewn peirianneg meddalwedd a seiberddiogelwch a ariennir gan y Llywodraeth.
Dywedodd Christina Blakey, y Rheolwr Datblygu Busnes ac arweinydd Prentisiaethau yn WGU:
“Rydyn ni wedi cael cryn dipyn o alw am ein nifer cyfyngedig o lefydd ond rydyn ni bob amser yn awyddus i glywed gan gyflogwyr eraill yng Nghymru sydd am fod yn rhan o’r cynllun Gradd-brentisiaethau, gyda ni, neu Grŵp NPTC. Rydyn ni’n disgwyl i’r galw am y rhaglenni hyn barhau ac rydyn ni eisoes yn bwriadu gwneud cais am gyllid ychwanegol ar gyfer Medi 2019.”