Mae ein cyn-fyfyriwr Gethin Davies, yn anelu’n uchel wrth fynd ati i gyflawni un o’r heriau mwyaf anodd yn y byd.
Yn 28 oed o Bort Talbot, mae eisoes wedi dringo rhai o fynyddoedd mwyaf y byd, ond erbyn hyn mae’n ymbaratoi i goncro Mynydd Everest.
Os bydd ef yn llwyddo i gyrraedd ei nod, bydd y milwr o Bort Talbot yn ennill y clod o fod y person ieuengaf o Gymru ynghyd â’r swyddog byddin cyntaf sy’n Gymro i gyrraedd y copa.
Mae Gethin, sydd yn dringo fel rhan o dîm heb dywys yn ymbaratoi yn feddyliol a chorfforol ar gyfer yr heriau aruthrol y mae’n gwybod y bydd yn eu hwynebu ar y mynydd.
Dywedodd Gethin, “Yr uchder ynghyd â faint o amser y byddwch yn ei dreulio ar yr uchder hwnnw. A’r math o effaith y bydd hyn yn cael ar y corff. Byddwch yn colli pwysau, byddwch yn colli cryfder a dioddef math o ddiraddio o ran eich cyhyrau mewn gwirionedd. Mae hefyd yn dipyn o her meddwl, gall eistedd mewn gwersylloedd sylfaen am wythnosau yn aros am ffenestr tywydd fod yn eithaf rhwystredig hefyd. Felly mae gen i Kindle wedi’i lwytho â chynifer o lyfrau â phosibl.
“Rwy’n credu ei bod hi’n beth da i deimlo’n ofnus. Rwy’n nerfus, nerfus ar yr un pryd â theimlo’n gyffrous a phryderus, ond hefyd yn ysu i fynd i mewn gwirionedd i ddangos ei bod yn gyraeddadwy i rywun o dde Cymru fwrw ati a dringo’r mynydd.”
Mae Gethin a’i dîm yn paratoi i ddechrau eu hesgyniad ym mis Mai neu fis Mehefin eleni.