Mae Grŵp colegau NPTC wedi croesawu adran rythmig y band funk, Jamiroquai, i ganolfan y Celfyddydau Nidum Coleg Castell-nedd. Perfformiodd y band ar gyfer myfyrwyr a’r cyhoedd yn y theatr 168 sedd, fel rhan o’u taith dosbarth meistr. Mae Adran Rythmig Jamiroquai yn cynnwys: Derrick McKenzie (drymiau), Rob Harris (gitâr) a Paul Turner (gitâr bas).
Rhwng teithio gyda Jamiroquai a chwarae cyngherddau rhyngwladol eraill, mae’r band yn mwynhau cyflwyno dosbarthiadau meistr ledled y DU yn eu hamser segur, gan gwblhau tua deg neu ddeuddeg dosbarth y flwyddyn.
Dywedodd Paul: “Mae’n sbort i ni ddod i chwarae pan nad ydyn ni’n brysur, ond hefyd mae’n fath gwahanol o safbwynt. Rwy’n credu bod pob athro yn gwybod – pan ydych chi’n addysgu neu geisio egluro rhywbeth, mae’n brofiad hwylus i chi hefyd, yn ogystal â’r myfyrwyr, am eich bod chi’n meddwl am bethau ychydig bach yn wahanol. Rydych yn dechrau dadansoddi pam y gallech chi wneud rhywbeth o safbwynt cerddorol, felly cawn rywbeth allan ohono yn ogystal â’r myfyrwyr hefyd gobeithio.”
Chwaraeodd y band nifer o glasuron Jamiroquai ynghyd â rhai ffefrynnau personol eraill. Rhwng y caneuon, agorwyd y llwyfan i gwestiynau gan y gynulleidfa am amrywiaeth o bynciau – o bwysigrwydd ‘hook’ da a deinameg cerddorol i anawsterau technegol, yn ogystal â rhai hanesion difyr am yrfaoedd pob un ohonynt.
Dywedodd Carolyn Davies, darlithydd cerddoriaeth arobryn a chyn-fyfyriwr Grŵp Colegau NPTC: “Roedd hyn yn ddigwyddiad gwirioneddol ffantastig a drefnwyd gan Christian Carpenter, Cydlynydd y cwrs Cerddoriaeth BTEC lefel 3. Mae’r Academi Cerddoriaeth yma yng Ngrŵp Colegau NPTC yn unigryw oherwydd y cysylltiadau proffesiynol â’r diwydiant cerddoriaeth a thrwy Chris, mae modd i ni allu hwyluso cyfleoedd anhygoel megis y digwyddiad hwn. Rydym yn dîm ymroddedig sydd i gyd yn ymdrechu i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer ein myfyrwyr.”
Bydd y band Jamiroquai yn mynd ar daith unwaith eto gyda Jay Kay yn y misoedd nesaf.
Gallwch ddilyn y band a’i waith ar:
Facebook – @JamiroquaiOfficial
Twitter – @JamiroquaiHQ
Instagram -jamiroquaihq
Academi Cerddoriaeth Grŵp Colegau NPTC
Mae pob myfyriwr cerddoriaeth yn cael hyfforddiant un i un ar eu hofferyn/llais a ddarperir gan dîm o diwtoriaid peripatetig sydd i gyd yn ymarferwyr arweiniol yn eu dewis feysydd. Mae rhaglen lawn o weithgareddau perfformiad a theori – allgyrsiol a rhan o’r cwricwlwm, ynghyd â chyngherddau bob tymor, digwyddiadau cymunedol a chyfranogiad mewn cystadlaethau a gwyliau cerddoriaeth lleol a chenedlaethol. Ar Ebrill 4, teithiodd 7 ensemble i Borthcawl i gymryd rhan yn y rownd ranbarthol o Ŵyl Genedlaethol Cerddoriaeth Ieuenctid- Gŵyl Cerddoriaeth Ieuenctid fwyaf yn Ewrop.
CAPSIWN AR GYFER Y LLUN: Adran Rythmig Jamiroquai (o’r chwith i’r dde). Rob Harris ar gitâr, Derrick McKenzie ar ddrymiau a Paul Turner ar gitâr bas.