Mae hyfforddiant arobryn mewn trin gwallt a gwaith barbwr ar gael yn swyddogol yng Ngholeg Bannau Brycheiniog.
Mae’r triniwr gwallt enwog Lee Stafford wedi agor ei Academi gyntaf yng Nghymru yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, fel rhan o Grŵp Colegau NPTC.
Mae ei staff hynod o brofiadol wedi bod wrthi’n gweithio’n ddwys gyda’r tîm trin gwallt yn y Coleg wrth iddynt ddarparu eu hyfforddiant dosbarth cyntaf safon Seren Michelin yn ôl ‘rysáit’ Lee Stafford yn barod ar gyfer y myfyrwyr newydd ym mis Medi. Roedd Lee wrth law hefyd i roi rhai awgrymiadau defnyddiol ac i agor y salon wedd newydd yn swyddogol.
Mae disgyblion ledled Powys eisoes wedi cael dosbarth meistr gan y triniwr gwallt enwog, a gymerodd amser allan o’i amserlen brysur i ddangos ei rysáit ar gyfer y ‘Twisted Tong’ yn y digwyddiad Llwybrau Cadarnhaol Gyrfa Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar ar faes y Sioe Frenhinol.
Bellach mae’r Coleg wedi cael ei ailwampio yn llwyr a bydd y tîm brwdfrydig yn awr yn edrych i lansio’r Academi newydd i’r gymuned leol a chyflogwyr yn yr hydref. Bydd hyn yn digwydd ar safleoedd Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg Y Drenewydd, yn dilyn y lansiad yng Ngholeg Castell-nedd ar 7 Mai.
Enillodd Lee Stafford y wobr Triniwr Gwallt i Ddynion y Flwyddyn Prydain 2001 ac roedd yn driniwr gwallt enwog preswyl i This Morning ac mae hefyd wedi lansio eu cynhyrchion eu hun yn llwyddiannus ac wedi hen sefydlu ei le fel un o’r trinwyr gwallt uchaf ei barch yn y DU. Ond, er gwaethaf ei lwyddiant, nid yw Lee erioed wedi anghofio ei wreiddiau, ac mae’n dal i fod yn ddiolchgar iawn am y blynyddoedd ffurfiannol yn mireinio’i grefft.
“Rwy mor falch o lansio’n swyddogol yr Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford cyntaf yng Nghymru mewn partneriaeth â Grŵp Colegau NPTC,” meddai. Coleg Bannau Brycheiniog yw’r cyntaf o’r tri safle i gael ei agor yn swyddogol ar gyfer y Coleg, ac rwy’n edrych ymlaen at agor ein hacademïau eraill cyn bo hir.”
Ychwanegodd: “Mae’n wych gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r myfyrwyr. “Rwy’n frwd iawn ynghylch rhoi’r cyfle gorau i gael addysg dda o fewn trin gwallt i weithwyr proffesiynol ifanc . Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Grŵp Colegau NPTC lle byddwn yn gweithio gyda myfyrwyr i ddatblygu technegau cryf iawn ac agweddau gwych wrth baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y diwydiant trin gwallt.”