Roedd Andrew Davies ar y brig ym Marathon Llundain eleni, gan orffen y ras gydag amser hynod o drawiadol sef 2:15:37!
Y darlithydd Chwaraeon yng Ngholeg y Drenewydd oedd y trydydd Cymro i fynd ar draws y llinell derfyn, wrth orffen yn y 26ain safle yn y ras.
Dyma’r canlyniad mwyaf cyflymaf ond un yng ngyrfa Andy, i’w ychwanegu at y rhestr o anrhydeddau y mae eisoes wedi’u casglu gan gynnwys cymryd rhan yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow a’r Traeth Aur ac ennill medal aur i Brydain Fawr yn y Pencampwriaethau ‘World Masters Mountain Running’ yn Slofenia.
Mae’n bosibl bod rhai gwylwyr sylwgar hefyd wedi sylwi ar Andy ar eu sgriniau teledu, wrth iddo sefyll ger Eliud Kipchoge, y rhedwr enwog ac enillydd y ras ar y llinell gychwyn!
Bydd Andy yn mynd i Bortiwgal nesaf gan ei fod yn rhan o dîm o chwech o Brydain Fawr a fydd yn cystadlu yn y ‘46k World Trail Running Championships’ ym mis Mehefin.
Ar ôl y ras, dywedodd Andy: “Cefais amser gwych ym Marathon Llundain, roedd y torfeydd yn anferthol unwaith eto – dydyn nhw byth yn siomi.
“Yn bersonol, es i ati i aros gyda’r penwyr cyflymder ond aethant yn rhy gyflym, felly arafais i ar ôl 9.5 milltir a rhedais i’r gweddill ar fy mhen fy hunan.
“Doedd fy nghoesau ddim yn teimlo’n grêt ar ôl 16 milltir felly roedd yn rhaid i fi ddal ati am 10 milltir! Doeddwn i ddim yn pylu gormod felly dw i wrth fy modd i orffen fy ail farathon cyflymaf erioed – 2:15:37.
“Cwpl o wythnosau bant i orffwys a gwella, yna ras llwybr 46km ym Mhortiwgal ymhen chwe wythnos!”