Mae myfyrwyr celf yng Ngholeg y Drenewydd wedi dadorchuddio cerflun corryn newydd i’w arddangos yn y dref, fel rhan o brosiect ymddiriedolaeth bywyd gwyllt.
Ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, cyfrannodd y myfyrwyr at ddylunio’r cerflun wyth coes gyda Brandon Cadwallader, yn dilyn eu cyflwyniad buddugol ar gyfer prosiect ‘Art Oasis’ yr Ymddiriedolaeth.
Yna cafodd y dyluniad dewisol ei gwblhau a’i osod gan yr arlunydd a’r gof Spike Blackhurst a lleolir y corryn yn Oriel Davies yng Ngerddi Neuadd y Dref Y Drenewydd.
Gweithiodd y myfyrwyr yn agos gyda Spike i greu’r corryn, gan gymryd rhan mewn gweithdy gwaith gof ymarferol yn stiwdio Spike wrth iddynt ehangu eu gwybodaeth am grefftau a thechnegau i ddod â natur yn fyw.
Wedi’i ariannu gan fenter Llywodraeth y Cynulliad a’r UE, nod y prosiect o’r enw “Arwain” yw dod â phobl a bywyd gwyllt at ei gilydd drwy’r celfyddydau a darparwyd gweithgareddau celf creadigol a phrosiectau allgymorth gyda nifer o sefydliadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Ymunodd partneriaid a busnesau perthnasol gyda’r myfyrwyr a’r ymddiriedolaeth ar gyfer y lansiad ddiwedd Ebrill, wrth i’r cynllun trawiadol ddod yn fyw!
Gallwch ddarganfod rhagor am ein cyrsiau celf a’n cyrsiau creadigol eraill drwy ymweld yma