Bu’n flwyddyn lwyddiannus i’n myfyrwyr chwaraeon yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, sy’n parhau i lwyddo mewn nifer o gystadlaethau.
Mae Iwan Evans o Lanfair-ym-Muallt yn parhau i greu argraff mewn beicio i Dîm Cymru, wrth iddo orffen yn 3ydd yn ei gategori o dan 18 yn Ras Ffordd Goffa Betty Pharoh, ac yn 25ain yn gyffredinol mewn carfan gref o 80 o raswyr elit.
Roedd timau cyfandirol megis Madison Genesis, Team Ribble Pro Cycling, Canyon DHB P/B Bloor Homes ac Academi Rasio Tîm Cymru dan 23 Iwan yn cymryd rhan yn y ras.
Rhoddodd y ras brofiad amhrisiadwy i Iwan, a oedd gyda’r ieuengaf o’r beicwyr oedd yn amrywio o rhwng dan 18 i 30.
Hon yw blwyddyn gyntaf y beiciwr ifanc yn rasio mewn cystadlaethau categori oedran, ar ôl cymryd rhan mewn cystadlaethau Ewropeaidd a rhyngwladol rhwng hyfforddi yng Nghasnewydd.
Dechreuodd Iwan ar y gamp yn wyth oed, gyda’i dad yn frwd dros feicio modur. Ar ôl cael anaf dechreuodd ei dad feicio ac roedd Iwan yn ei fwynhau gymaint, erbyn cyrraedd 14 oed fe ddechreuodd hyfforddi o ddifri.
Nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny, ac yn dilyn ei yrfa lwyddiannus hyd yma mae’n gobeithio dod yn lled-broffesiynol wedi iddo orffen ei gwrs gyda ni yng Ngholeg Bannau Brycheiniog.
Mae Iwan hefyd yn anelu at ennill lle yn nhîm dan 23 Cymru neu mewn tîm ar y cyfandir, yn ogystal â symud i’r brifysgol.
Mae Evan Price Davies o Three Cocks hefyd wedi mwynhau llwyddiant diweddar ym myd y campau, ar ôl dod yn 4ydd yn her y Barcud Coch ym Mhontarfynach. Enillodd y rhedwr brwd hefyd y fedal aur dan 20 ym Mhencampwriaethau Cymru, ar ôl dechrau ar y gamp ychydig dros flwyddyn yn ôl. Bydd yn mynd i Eryri yr haf hwn, wrth iddo ymgymryd â threialon Cymru ar gyfer rasys 5k a 10 milltir.
Mae Iwan Lavis o Lanfihangel Tal-y-Llyn wedi bod yn brysur ar y dŵr yn caiacio yn ddiweddar ac wedi bod yn cystadlu’n dda ers dechrau yn y gamp. Bu hefyd yn cynrychioli’r coleg mewn sboncen yn nhwrnamaint Colegau Prydain yn Nottingham.
Roedd Clarisse Ann Lamsen o Lanfair-ym-Muallt hefyd yn y twrnamaint, wrth iddi ragori ar y cwrt badminton. Dilynodd ei llwyddiant blaenorol o ennill pob un o’i 7 gêm yn 2017 a chynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol 2018.
Maen nhw i gyd ar y trywydd iawn i ragori yn eu hastudiaethau hefyd, a dymunwn y gorau iddyn nhw wrth iddynt nesáu at ddiwedd eu cyrsiau gyda ni!
Yn ystyried gyrfa mewn chwaraeon neu wasanaethau cyhoeddus? Rydym yn cynnig y cyrsiau canlynol yng Ngholeg Bannau Brycheiniog:
- BTEC Lefel 1 mewn Chwaraeon a Hamdden Egnïol
- BTEC Lefel 2 Cyfun mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus
- BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff
- BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus
- HND Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff
Mae gennym ddigon o ffyrdd i chi gael gwybod rhagor! Gallwch fynychu ein noson agored ar y 26ain o Fehefin, ewch i’n gwefan, neu gallwch gysylltu â’n darlithydd gwasanaethau cyhoeddus Rhian Davies ar rhian.davies@nptcgroup.ac.uk neu’n darlithydd chwaraeon Steve Thomas ar Stephen.Thomas@nptcgroup.ac.uk