Mae Grŵp Colegau NPTC ar flaen y gad o ran hyfforddi cenedlaethau’r dyfodol i adeiladu tai fforddiadwy ledled Cymru a thu hwnt.
Mae’r coleg blaengar yn helpu i sefydlu academi hyfforddi ar gyfer pobl ifanc sy’n awyddus i gael troedle yn y diwydiant adeiladu. Mae’n gweithio ar hyn o bryd gyda nifer o bartneriaid gan gynnwys Sevenoaks Modular, cwmni adeiladu fframiau pren arbenigol a leolir yng Nghastell-nedd, sydd wedi buddsoddi £6,500,000 er mwyn caffael ac adfywio rhan fawr o hen safle Metal Box yng Nghastell-nedd.
Fel rhan o’r gwaith i adfywio’r safle eiconig hwn, sy’n eistedd ar gyrion canol y dref, caiff yr adeilad ei ailenwi ‘JCG Buildings’. Bydd Sevenoaks Modular yn cymryd yr awenau am hanner y safle gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a brynodd y ffatri yn 2019. Bydd yn symud ei holl weithrediadau, yn ogystal â gweithrediadau ei chwaer-gwmnïau Hale Construction a Hale Homes, sy’n rhan o Grŵp Hale, i’r safle unwaith iddo gael ei adnewyddu
Rhwng yr holl gwmnïau, bydd tua 200 o bobl yn cael eu lleoli ar y safle sydd hefyd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer yr academi hyfforddi. Mae staff uwch o Grŵp Colegau NPTC wedi cael eu gwahodd i fod yn aelodau’r grŵp llywio a fydd yn helpu i sefydlu’r cyfleuster hyfforddi, gan gynnwys Wyn Prichard, Cyfarwyddwr Sgiliau a Strategaeth Adeiladu yn y Coleg.
Bydd Grŵp Colegau NPTC yn gwahodd grwpiau allweddol, sydd eisoes yn gweithio gyda’r Coleg, drwy gyfrwng Memoranda Cyd-ddealltwriaeth (MOUs) a phartneriaethau i ymuno â nhw, er mwyn sicrhau y bydd yr hyfforddiant a gynigir o safon fyd-eang. Mae’r partneriaethau hyn yn cynnwys Sustainability Supply Chain School, MPBA, Ffederasiwn Gwaith Coed Prydain, FIS Wood Knowledge Wales a bydd eraill yn ymuno hefyd wrth i’r rhaglen fynd yn ei blaen.
Dywedodd Wyn Pritchard: “Rydyn ni wrth ein bodd i gael partner allweddol ac arweinydd ym maes hyfforddiant adeiladu modiwlar. Mae Sevenoaks Modular wedi clustnodi buddsoddiad sylweddol i dai cynaliadwy a fforddiadwy ac edrychwn ymlaen at gyd-weithio i hyfforddi cenhedlaeth nesaf y gweithlu adeiladu yn y maes cyffrous hwn.”