Llongyfarchiadau i Rhian Davies, sydd wedi cael ei dewis i gynrychioli Cymru’r haf hwn yn Nhwrnamaint Hoci Meistri Ewrop yn Rotterdam.
Mae’r darlithydd chwaraeon yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yn rhan o garfan o 20 sy’n mynd i’r Iseldiroedd ym mis Gorffennaf, ar ôl gwneud argraff dda mewn dwy sesiwn brawf ym mhroses dewis y garfan.
Bydd HC Rotterdam yn cynnal y twrnamaint ar gyfer y timau dynion a menywod 35+, 40+ a 45+.
Llwyddodd Rhian i gael lle yn nhim 35+ Cymru, wrth i’r treialon gael eu chwynnu o 70 i 20 o chwaraewyr cyn cyraedd y 17 terfynol.
Mae tîm Rhian yn wynebu dwy gêm yn y DU i baratoi ar gyfer y twrnamaint, yn erbyn tîm y lluoedd cyfunol a thîm arall y gwledydd cartref a fydd yn ymuno â nhw ar yr awyren i Rotterdam.
Bydd Cymru’n cychwyn y gystadleuaeth yn erbyn Sbaen, cyn ymgiprys â’r Almaen, Lloegr a’r Iseldiroedd.
Mae Rhian wedi mwynhau gyrfa hoci lwyddiannus hyd yn hyn, yn cynrychioli Colegau Cymru yn ogystal â’r Luctoniaid, Seintiau’r Eglwys Newydd a Chlwb Hoci Gwernyfed, lle enillodd ‘Chwaraewr i Ffwrdd y Flwyddyn’ ar gyfer y tîm Adran 3.
Her gyntaf Rhian yw paratoi ar gyfer y gystadleuaeth ynghyd â chodi arian i dalu am gostau’r twrnamaint, sy’n cynnwys prynu’r wisg gartref ac i ffwrdd ac offer angenrheidiol. Os hoffech chi helpu i gefnogi Rhian ewch i https://www.justgiving.com/crowdfunding/rhian-davies-2
Mae Grŵp Colegau NPTC yn dymuno’r gorau i Rhian a thimau Cymru yr haf hwn!