Mae Alice Yeoman, myfyriwr arlwyo Coleg y Drenewydd, wedi’i phenodi i swydd yng Ngwesty Savoy, sef y gwesty enwog yn Llundain. Mae’r gwesty yng nghalon Llundain yn enwog am ei wasanaeth rhagorol a’i soffistigedigrwydd.
Bu Alice, a astudiodd gymhwyster Lefel 3 mewn Arlwyo yn y coleg, yn ymweld â’r Savoy gyda’r bwriad o ddarganfod mwy am gyfleoedd gwaith, a dechreuodd siarad ag aelod o’r tîm digwyddiadau a rheoli a ddangosodd ddiddordeb mawr yn Alice a’i chyflawniadau hyd yn hyn. Wrth gyflwyno cais i’r gwesty, cafodd ei rhoi ar y rhestr fer ar unwaith a chynigiwyd cyfweliad iddi. Roedd Alice wrth ei bodd i fod yn llwyddiannus. ‘ Dwi mor lwcus cael fy swydd ddelfrydol mor fuan ar ôl cwblhau’r coleg’, meddai Alice.
Dywedodd Sue Lloyd Jones, Pennaeth Arlwyo Grŵp Colegau NPTC, “Gwnaeth Alice argraff fawr arnon ni i gyd yn y tîm arlwyo. Roedd ei huchelgais yn amlwg am mai hi oedd yr unig gystadleuydd o Gymru yn rownd derfynol y gystadleuaeth genedlaethol WorldSkills UK, yn cystadlu yn erbyn arbenigwyr iau yn y Celfyddydau Coginio o bob cwr o’r DU, ac rydyn ni wrth ein bodd gyda’i llwyddiant’.
Ychwanegodd y darlithydd Shaun Bailey ‘ Mae swyddi arlwyo yn y lleoliadau o fri yn arbennig o boblogaidd ac mae’r ffaith ei bod hi wedi cael y cyfle gwych hwn yn talu teyrnged i agwedd cadarnhaol Alice, ei huchelgais a’r holl waith caled y mae hi wedi’i wneud yn y coleg’.
Dywedodd Alice sbel yn ôl ei bod yn ‘argymell adran arlwyo Coleg y Drenewydd yn frwd i unrhyw berson ifanc sy’n hoff iawn o arlwyo a’r celfyddydau coginio. Ac roedd hi hefyd yn annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn cystadlaethau gan ychwanegu ‘ byddwch yn ddewr ac ewch ati. Diolch yn fawr iawn i’r holl staff sydd wedi fy nghefnogi yng Ngholeg y Drenewydd’.
Pob lwc Alice gan bawb yng Ngrŵp Colegau NPTC.