Ar ôl gwaith aros mawr, mae myfyrwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn dathlu wrth gyflawni canlyniadau rhagorol yn eu cymwysterau Safon Uwch a galwedigaethol.
Mae llawer o ‘Ddosbarth 2019’ naill ai wedi sicrhau lleoedd yn y prifysgolion gorau neu wedi ennill y cymwysterau angenrheidiol i geisio eu swyddi perffaith; Matthew Lawrence er enghraifft, sy’n anhygoel o dalentog, ac sydd, yn 17 oed, wedi cyflawni canlyniadau rhagorol sef pedwar A* mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach, Cemeg a Ffiseg. Mae bellach yn ystyried astudio Mathemateg naill ai ym Mhrifysgol Caergrawnt neu yng Ngholeg Imperial Llundain.
Yn rhyfeddol, bydd Connor Doyle, sef myfyriwr Bioleg, Cemeg a Chyfrifiadureg yn ymuno ag ef am ei fod hefyd wedi ennill lle ym Mhrifysgol Caergrawnt, i astudio’r Gwyddorau Naturiol yng Ngholeg Girton, ar ôl ennill gradd A* ym mhob un o’i bynciau.
Mae Si Wai Hui ar y ffordd i Rydychen, ar ôl cyflawni canlyniadau rhagorol sef A* mewn Bioleg Safon Uwch, A * mewn Cemeg ac A* mewn Mathemateg. Mae Si wedi cael ei dderbyn i astudio Meddygaeth yng Ngholeg yr Iesu, ac enillodd hefyd Aur yn y ‘Biology Olympiad 2019’ – y tro cyntaf i’r coleg. Mae Ewan Partington sydd hefyd wedi ennill A * mewn Cemeg, Ffiseg, Mathemateg a Mathemateg Bellach yn mynd i Brifysgol Caerfaddon i astudio Mathemateg.
Gyda chanlyniadau fel hyn mae’n hawdd gweld sut mae’r coleg wedi cynyddu ei ganlyniadau A*- A i gyrraedd 20 y cant, sy’n gyfradd eithriadol, gyda myfyrwyr yn cyflawni cyfradd lwyddo ryfeddol o 100% mewn 26 pwnc Safon Uwch. Cyflawnodd 46.3 y cant raddau A *- B, gyda 76 y cant yn cyflawni graddau A *-C. Roedd newyddion da hefyd i’r myfyrwyr a ddilynodd y rhaglen GATE, gyda 85% yn ennill graddau A*/A ac mae 100% ohonynt wedi ennill graddau A*- B.
At hynny, enillodd 74 o fyfyrwyr raddau rhagoriaeth driphlyg yn y cymwysterau Diploma Cenedlaethol Estynedig, gyda 30 o fyfyrwyr yn cyflawni’r proffil graddau uchaf posibl, sef D* D* D* sy’n cyfateb i 3 A* Safon Uwch.
Y canlyniadau ardderchog ar gyfer 2019 yw uchafbwynt blwyddyn anhygoel i’r Coleg a gafodd ei enwi fel y Prif Ddarparwr Hyfforddiant yng Nghymru ac yn ail yn y DU ar gyfer ei Addysgu yn y Gwobrau Ymadawyr Ysgol.
Cafodd y Ganolfan Academi Chweched Dosbarth newydd sbon yng Ngholeg Castell-nedd ei chydnabod hefyd am wella profiad myfyrwyr yn sylweddol yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Cymru. Mae’r ganolfan bellach yn ganolfan weithgareddau brysur i fyfyrwyr ac mae’n cynnwys digon o le i gymdeithasu ac amgylchedd dysgu agored.
Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC: “Unwaith eto, gallwn ddathlu’r ffaith ein bod yn goleg sy’n cyflawni i’r eithaf gyda rhai canlyniadau arbennig a myfyrwyr talentog. Mae eu llwyddiant yn ymwneud â gwaith caled ac ymrwymiad. Mae eu dyfodol yn bwysig iawn i ni a thrwy gefnogaeth ein staff anhygoel a thrwy fuddsoddi mewn cyfleusterau, gallwn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn. ”
Ychwanegodd Jeremy Miles AC dros Gastell-nedd:
“Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr sy’n derbyn canlyniadau ar draws Castell-nedd heddiw. Unwaith eto, rwy’n hynod o falch bod pobl ifanc o’r ardal hon yn dangos pa mor wych ydynt i weddill Cymru.
“Mae perfformiad academaidd yn ganlyniad i lawer o ffactorau a dylanwadau. Yn enwedig rôl staff ymrwymedig a rhieni sydd, gyda’i gilydd, yn darparu’r gefnogaeth, y gred a’r arweiniad i wella bywydau pobl ifanc. Mae’r perfformiad eleni yn adlewyrchu’r ymrwymiad hwnnw i gyflawni canlyniadau academaidd o’r safon uchaf.
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddymuno pob lwc a llwyddiant i bob myfyriwr, wrth iddynt gamu ymlaen i anturiaethau newydd yn eu dewis brifysgolion, colegau, prentisiaethau neu’r byd gwaith. I’r myfyrwyr na chawsant y canlyniadau yr oeddent yn eu disgwyl, mae llawer o opsiynau eraill ar gael. Bydd staff y coleg a Gyrfa Cymru wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad ar y camau nesaf.”
Canlyniadau Dethol
Safon Uwch
Matthew Lawrence: A* A* A* A* mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach, Cemeg a Ffiseg. Mae Matthew, sydd ond yn 17 oed, yn bwriadu astudio Mathemateg yng Ngholeg Imperial Llundain.
Ewan Partington: A* A* A* A* mewn Cemeg, Ffiseg, Mathemateg a Mathemateg bellach. Derbyniwyd i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caerfaddon.
Si Wai Hui: A*A*A* mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg. Mae Si Wai ar ei ffordd i Rydychen i ddarllen Meddygaeth. Ef yw’r myfyriwr cyntaf o Grŵp Colegau NPTC i ennill medal aur yn Olympiad Bioleg Prydain.
Connor Doyle: A*A*A* mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg. Mae Connor wedi cael ei dderbyn i Brifysgol Caergrawnt – Coleg Girton i ddarllen y Gwyddorau Naturiol.
Aeron Morgan: AAA mewn Mathemateg, Cemeg a Bioleg. Derbyniwyd i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerefrog.
Rachel Penny: AAAA mewn Cyfrifiadureg, Economeg, Mathemateg ac Astudiaethau Crefyddol. Mae Rachel yn mynd i Brifysgol Abertawe i astudio Cyfrifeg.
Ahki Uddin: AABB mewn Saesneg Iaith, Bagloriaeth Cymru, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, B mewn Cymdeithaseg. Derbyniwyd i Brifysgol Caerdydd i astudio Newyddiaduraeth.
Muntaha Rahman: AABB mewn Cymdeithaseg, Cymraeg, Hanes a Saesneg. Mae Munhata yn mynd i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe.
Nia Jones: A*AA mewn Sbaeneg, Ffrangeg ac Economeg. Derbyniwyd i Brifysgol Caerdydd i astudio Rheoli Busnes a Sbaeneg.
Tyler Joseph: AAA mewn Bioleg, Mathemateg a Chemeg. Mae Tyler yn mynd i Brifysgol Abertawe i astudio Gwyddorau Meddygol Cymhwysol.
Cameron Jones: AAA mewn Mathemateg, Bioleg a Chemeg. Derbyniwyd i Brifysgol Abertawe i astudio Gwyddorau Meddygol Cymhwysol.
Charlotte McNab: AAA mewn Cemeg, Mathemateg a Bioleg. Mae Charlotte yn mynd i Brifysgol Bryste i astudio Meddygaeth.
Alisha Jenkins: AAB mewn Hanes, Seicoleg a’r Gyfraith. Derbyniwyd i Brifysgol Caerdydd i astudio Seicoleg.
Llwyddodd yr efeilliaid Rebecca a Kate Williams i ennill graddau A i gyd. Rebecca: A* A* A* mewn Ffrangeg, Tecstilau a Chymdeithaseg. Mae Rebecca wedi cael ei derbyn i Warwig i astudio’r Gyfraith. Kate: A* A* A yn y Gyfraith, Cymdeithaseg a Seicoleg ac mae’n mynd i Brifysgol Abertawe i astudio Celf Sylfaen.
Mae’r efeilliaid Ffion a Lowri Beynon ill dwy wedi ennill graddau A triphlyg mewn Hanes, Ffrangeg ac Economeg a Hanes, Ffrangeg a’r Gyfraith yn y drefn honno. Mae Ffion wedi cael ei derbyn i astudio ym Mhrifysgol Manceinion ac mae Lowri yn mynd i Gaerefrog.
Cymwysterau Galwedigaethol
Aimee John: Rhagoriaeth Driphlyg Serennog (D* D* D*) mewn Gwyddoniaeth Fforensig. Derbyniwyd i Brifysgol Caerdydd i astudio Gwyddor Gofal Iechyd.
Kayleigh Mellor: D* D* D* mewn BTEC Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig. Mae Kayleigh yn mynd i Brifysgol Gorllewin Lloegr i astudio Pensaernïaeth a Pheirianneg Amgylcheddol.
Jay Davies: D*D*D* mewn BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn TG. Mae Jay yn mynd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Cyfrifiadureg.
Katie Eley: D*D*D* mewn Chwaraeon Lefel 3 (Perfformiad a Rhagoriaeth). Mae Katie yn mynd ymlaen i wneud prentisiaeth yn HSBC, a chymryd ychydig o hoe cyn ystyried mynd i addysg uwch.
Megan Harries: D*D*D* mewn Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff Lefel 3. Derbyniwyd i Brifysgol Durham i astudio Chwaraeon, Gweithgarwch Corfforol ac Ymarfer Corff.
Emma Cullingford: D*D*D* mewn Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff Lefel 3. Mae Emma yn mynd i Brifysgol Caer i astudio Addysg Gorfforol.
Kia Sambrook: D*D*D* mewn Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth Lefel 3. Yr unig ferch yn ei dosbarth, mae Kia wedi cael ei derbyn i Brifysgol Aberystwyth i astudio Cyfrifiadureg.
Lloyd John: D*D*D* mewn BTEC Busnes Lefel 3. Mae Lloyd yn bwriadu cymryd blwyddyn allan o addysg i bwyso a mesur ei opsiynau.
Mitchell Tristram: D*D*D* mewn BTEC Busnes Lefel 3. Derbyniwyd i Brifysgol Abertawe i astudio Rheoli Busnes.
Jac Thomas: DDD mewn BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn TG. Derbyniwyd i Brifysgol Aberystwyth i astudio Cyfrifiadureg.
Cyflawnodd Niamh Bevan a Savannah Elkins DDD mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3. Mae Niamh yn aros yn y Coleg i wneud Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Gofal.
Cyflawnodd saith myfyriwr oedd yn astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol D*D*D*. Enillodd Amy Price, Lucy Collard, Carla Jones, Niamh Natasha Pugh, Lauren Tabberer, Trudi Hancock a Ruth Jenkins y radd uchaf bosibl.