Bu i Ddysgwyr ESOL Oedolion a’r Gymuned Coleg Bannau Brycheiniog, ynghyd â’r tiwtor, Jacqui Griffiths, estyn croeso cynnes i Ann Mathias, Maer Aberhonddu yn ddiweddar mewn prynhawn gwobrwyo. Gan fwynhau dosbarth olaf y flwyddyn academaidd, cyflwynodd y Maer eu tystysgrifau Agored Cymru diweddaraf i’r myfyrwyr. Dangosodd Alix Miller sy’n rheoli’r Ganolfan ei chefnogaeth arferol gan helpu i wneud y prynhawn yn un cadarnhaol i bawb dan sylw. Hefyd yn dathlu llwyddiant y myfyrwyr oedd Jackie Poley, sydd wedi gwirfoddoli i gefnogi dosbarthiadau dros nifer o fisoedd.
Yn dilyn y cyflwyniad, cyfarfu dau fyfyriwr â’r Maer a chawsant eu llongyfarch o ran y Gwobrau Dysgwyr Powys a gyflawnwyd eleni. Casglodd y ddau wobrau mewn seremoni Wobrwyo Dysgwyr sy’n Oedolion Powys gyfan, a gynhaliwyd ym mwyty “Themâu” Grŵp NPTC yng Ngholeg y Drenewydd ym mis Mehefin. Yn dilyn enwebiadau fel Dysgwyr y Flwyddyn Powys, enillodd y ddau y Wobr yn eu categorïau enwebedig: Durga Bahadur Thapa enillydd Gwobr Dysgwr Cymunedol 2019 a Sher Bahadur Ijam enillydd Gwobr Dysgwr ESOL 2019.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyrsiau rhan-amser neu ragor o wybodaeth am y canlynol: Saesneg a Mathemateg, ESOL, TG a TGAU gyda’r hwyr, ffoniwch 01686 614554. Neu ewch i’n gwefan: www.nptcgroup.ac.uk/cy/dychwelyd-i-ddysgu