Gwahoddwyd ymwelwyr i Ganolfan Menter y Drenewydd i weld yr arddangosfa ‘Bywiogrwydd Cymuned’ a oedd yn cynnwys gwaith celf gan adran Celf a Dylunio Coleg y Drenewydd. Roedd y prosiect yn rhan o gydweithrediad rhwng y Ganolfan Menter a’r Coleg, gyda chyfarwyddyd i greu gwaith celf sy’n adlewyrchu gwerthoedd y ganolfan o ran cymuned, twf, arloesedd, cydweithio ac ysbrydoliaeth. Nod y prosiect oedd dod â gwaith artistiaid newydd i mewn i adeilad 140 oed Warws Frenhinol Cymru, a dangos a dathlu doniau’r artistiaid ifanc lleol arbennig hyn, nad ydynt fel arall yn cael eu gweld yn aml.
Roedd yr arddangosfa’n caniatáu i’r artistiaid gyflwyno eu dehongliadau eu hunain o’r cyfarwyddyd a daethant ag amrywiaeth o ganlyniadau gwych gan gynnwys celf gyfoes, ffotograffiaeth, gwaith print, dyluniadau pensaernïaeth a chelf gysyniadol. Anogwyd ymwelwyr â’r arddangosfa i roi adborth ar y darnau yn yr arddangosfa ac roedd llawer o ganmoliaeth ar gyfer y gwaith y tu ôl i’r arddangosion. Awgrymai’r adborth gan yr ymwelwyr eu bod wedi cydnabod y cyfarwyddyd yn y gwaith celf a gynhyrchwyd. Roedd y sylwadau a dderbyniwyd yn cynnwys;
‘Roedd y darn yn adlewyrchu datganiad cryf am swm y gweithgarwch a chynhyrchiant sydd yng nghanolbarth Cymru.’ Soniodd eraill am berthnasedd y lliwiau a’r egni a gyflëwyd.
Dywedodd un ymwelydd ei fod yn hoffi’r portread o harddwch lleol a’r defnydd o flodau Cymreig a soniodd eraill am y ffordd yr oedd artistiaid wedi cipio ysbryd yr adeilad.
Roedd Russell George AC hefyd yn bresennol yn yr arddangosfa i ddangos ei gefnogaeth.
Dywedodd Holly Jones, Cydlynydd y Ganolfan Fenter: “Rydym yn falch iawn o gael cydweithio gydag adran gelf Coleg y Drenewydd ar gyfer y prosiect cydweithredol hwn sy’n defnyddio lle agored gwych ein canolfan ac yn cefnogi artistiaid lleol newydd.”
Dywedodd Carys Evans, darlithydd celf yng Ngholeg y Drenewydd: “Mae’n gyfle gwych i fyfyrwyr weithio o gyfarwyddyd gan sefydliad allanol a gallu arddangos eu talentau yn y modd hwn, hoffem ddiolch i bawb a fu’n gysylltiedig am gefnogi’r cyfle hwn i’n myfyrwyr.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio Celf a Dylunio ewch i’n gwefan www.nptcgroup.ac.uk neu ffoniwch 01686 614200 a gofynnwch am fanylion am ein cyrsiau.