Rydyn ni’n ffarwelio â rhai o fyfyrwyr Coleg Bannau Brycheiniog wrth iddyn nhw gwblhau eu HND Datblygu a Hyfforddi Chwaraeon. Graddiodd y myfyrwyr Levi Phillips, Charlie Jones a Rhian Joseph ym mis Gorffennaf.
Mae Levi a Charlie, a astudiodd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ac a enillodd gymhwyster Lefel 3, bellach wedi cwblhau’r cwrs HND dwy flynedd. Mae hyn yn golygu bod myfyrwyr yn cyflawni lleoliadau yn eu hardal leol, gan gynnig cyfleoedd i hyfforddi mewn ysgolion cynradd, a gweithio o fewn prosiectau Iechyd Meddwl. Mae’r tri wedi cwblhau prosiectau ymchwil manwl yn llwyddiannus ar eu dewis bynciau. Mae’r cwrs yn caniatáu i fyfyrwyr fod yn annibynnol ac yn caniatáu iddynt fagu hyder a siarad yn gyhoeddus.
Cyflawnodd Levi, sy’n hyfforddwr dan 11 yng Nghanolfan Rygbi Gwernyfed, Deilyngdod (cyfwerth â B) gyda Charlie a Rhian yn ennill gradd llwyddo. Mae Levi a Charlie yn mynd i un o’n sefydliadau partner, Prifysgol De Cymru, i astudio Chwaraeon ac Addysg Gorfforol.
Dywedodd Levi: “Hoffwn ddiolch yn fawr i’m darlithwyr a wnaeth y cwrs yn hawdd i mi gan eu bod wrth law bob amser pan oedd gen i ymholiad.”
Ychwanegodd Charlie o’r Gelli Gandryll: “O’r cymhwyster hwn rwy’n gallu mynd i’r brifysgol a dilyn fy mreuddwyd o ddod yn hyfforddwr ymarfer corff i’r heddlu.”
Gyda myfyrwyr yn byw ychydig filltiroedd i ffwrdd o’r Coleg, mae’n ffordd hygyrch o ennill gradd ar garreg eich drws. Ychwanegodd Levi: “Roedd gallu astudio’r cymhwyster hwn mor agos i’m cartref, wedi’i wneud yn haws o lawer i mi gan fy mod i’n gallu gweithio yn ogystal â pharhau â’m hastudiaethau.”
Dymunwn y gorau i’n holl fyfyrwyr gyda’u mentrau newydd.