Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o gefnogi Wythnos Diogelwch Drysau Tân unwaith eto (23-29ain Medi 2019).
Ar hyn o bryd, rydym yn rhedeg, mewn partneriaeth â Ffederasiwn Gwaith Coed Prydain (BWF), hyfforddiant ar Osod a Chynnal a Chadw Drysau Pren sy’n gallu Gwrthsefyll Tân yn gywir. Ers mis Mai diwethaf rydym wedi gweithio gyda nifer o gyflogwyr i uwchsgilio eu staff a rydym wedi gweithio’n agos gyda nifer o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru. Mae dau o’r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hynny wedi rhoi adborth ynghylch pam eu bod yn credu ei bod mor bwysig cael staff cymwys i osod drysau tân.
Meddai Jaime Greig, Uwch Swyddog Gweithrediadau Tai Tarian: “Mae diogelwch tân yn rhywbeth y mae Tai Tarian yn ei gymryd o ddifrif ac mae wedi buddsoddi’n drwm dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ar uwchraddio’i ardaloedd cymunedol o fewn ein blociau o fflatiau yn ogystal â gwaith adnewyddu llawn yn Tai Hafan (Llety Byw’n Annibynnol i rai dros 55 oed) – mae hyn wedi cynnwys gosod drysau tân wedi’u huwchraddio i’r fflatiau eu hunain yn ogystal â drysau tân ar draws coridorau.
Gadawodd hyn fwlch sgiliau i ni gan nad oedd ein seiri coed mewnol wedi’u hyfforddi i’r rheoliadau cyfredol a bennwyd gan y diwydiant i wneud gwaith cynnal a chadw ar y drysau a osodwyd, ac nid oeddem am is-gontractio’r gwaith hwn er mwyn gallu cadw gwell rheolaeth ar safon ac amser ymateb.
Drwy weithio gyda Grŵp NPTC roeddem yn gallu darparu hyfforddiant i dîm o seiri coed i uwchsgilio ac ymgymryd â’r gwaith cynnal a chadw ar ein drysau sydd hefyd yn galluogi’r sefydliad i wneud arbedion, gan y gall ein cynllunwyr gydgysylltu gwaith arall sydd i’w wneud tra yn y safle i wella cynhyrchiant a lleihau ein hôl troed carbon. ~
Dywedodd Andy Styles, rheolwr gwasanaethau cynlluniedig Bron Afon: “Mae gennym dîm talentog o staff crefft ac rydym bob amser yn ceisio datblygu eu sgiliau. Mae diogelwch tân yn flaenoriaeth i ni, felly pan welsom yr hyfforddiant hwn fe wnaethon ni neidio at y cyfle. Mae wedi golygu bod gan ein staff yr arbenigedd i osod drysau tân i’r safon uchaf posibl er mwyn sicrhau eu bod yn darparu’r diogelwch gorau posibl mewn achos o dân. Roedd yr adborth gan y staff a wnaeth y cwrs yn gynharach eleni yn dda iawn. Fe ddysgon nhw lawer o’r hyfforddiant ac roedden nhw’n gallu rhoi’r hyn yr oedden nhw wedi’i ddysgu ar waith ar unwaith.”
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i fod yn gyflwyniad ymarferol i osod drysau tân ac mae’n cwmpasu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys: gosod drysau tân, fframiau drysau tân a leininau; deall a gosod nwyddau haearn a seliau drysau tân; cynnwys agorfeydd a rheoliadau tân cysylltiedig sy’n ymwneud â gosod gwydr; ac effeithiau defnydd ar berfformiad drysau tân.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy a gwneud cais nawr
Mae nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau’r ymgyrch yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos ynghyd â phecyn cymorth rhad ac am ddim o adnoddau i helpu landlordiaid a’u tenantiaid i gael cyngor diogelwch ar ddrysau tân. Am ragor o wybodaeth ewch i www.firedoorsafetyweek.co.uk