Mae Grŵp Colegau NPTC ac Academi Prentisiaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni – y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau.
Ar y rhestr fer yn y categori cyflogwr macro y flwyddyn (5,000+), mae’r bartneriaeth wedi’i chydnabod am ei hymrwymiad i gyflogi a hyfforddi unigolion drwy ei rhaglenni prentisiaeth ar ôl dangos dulliau arloesol a deinamig o gyflawni’r rhaglenni a phrentisiaethau wedi’u gwreiddio yn rhan o gynllun hyfforddi ac ethos y byrddau iechyd.
Ar hyn o bryd, mae gan y bartneriaeth brentisiaid sy’n weinyddwyr, gweithwyr cymorth gofal iechyd ar y wardiau ac mewn theatrau, cynorthwywyr mewn labordai ac mewn meysydd megis Dysgu a Datblygu, Swyddfeydd Archebu ar gyfer Cleifion Allanol, Ystadau a Chyfleusterau a’r Adran Therapïau. Mae’r rhan fwyaf yn ymgymryd â phrentisiaethau mewn busnes a gweinyddu a chymorth gofal iechyd clinigol (megis patholeg) ond maent yn gobeithio ehangu’r cymwysterau prentisiaeth er mwyn eu cynnig i fferylliaeth, lletygarwch a TGCh yn y dyfodol.
Wedi’u trefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), gyda Openreach yn brif noddwr ar gyfer eleni, mae’r gwobrau yn dangos llwyddiannau’r dysgwyr, y cyflogwyr, y tiwtoriaid a’r aseswyr gorau yng Nghymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygu rhaglenni hyfforddeiaeth a phrentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Mae 34 yn y rowndiau terfynol mewn dwsin o gategorïau yn cystadlu am y gwobrau pwysig a fydd yn cael eu cyflwyno mewn seremoni uchel ei phroffil yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru newydd yng Nghasnewydd ar 24 Hydref.
Roedd Alec Thomas, rheolwr y tîm dysgu seiliedig ar waith, Hyfforddiant Pathways yng Ngrŵp Colegau NPTC wrth ei fodd gyda’r newyddion, gan ddweud:
“Rydym yn falch iawn o gael cyrraedd y rhestr fer. Mae llwyddiant y cynllun wedi bod yn rhyfeddol gyda safon yr ymgeiswyr a’r dilyniant i swyddi parhaol i recriwtiaid yn gwbl wych. Fel Coleg blaengar, rydym yn deall yr angen i recriwtio prentisiaid sydd â’r sgil a’r agwedd i symud ymlaen yn y gyrfaoedd o’u dewis sy’n cyd-fynd yn uniongyrchol ag angen llawer o fusnesau, yn enwedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, i greu gweithlu medrus ar gyfer y tymor hir.”
Dywedodd Ruth Gates, Rheolwr Prosiect Dysgu a Datblygu Bae Abertawe:
“Mae’r holl staff sy’n gweithio i’r Academi Prentisiaethau wrth eu bodd i fod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon ac yn edrych ymlaen at y seremoni.
“Rydym i gyd yn gweithio’n galed i ddatblygu a hyrwyddo cyfleoedd prentisiaeth i bobl leol ddechrau eu gyrfaoedd o fewn y Bwrdd Iechyd ac i’r staff presennol wella eu sgiliau a’u gwybodaeth er mwyn diwallu anghenion cyfnewidiol y sefydliad, cael dyrchafiad ac esblygu.”
Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, Grŵp Colegau NPTC a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe a diolchodd i’r holl ddysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr a oedd wedi gwneud cais am y gwobrau eleni.
“Mae ein rhaglenni prentisiaethau a hyfforddeiaethau yn Llywodraeth Cymru yn helpu niferoedd cynyddol o bobl i ennill y sgiliau a’r profiad y gwyddom fod eu hangen ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru.”