Mae Caffi Menopos, sydd wedi’i anelu at chwalu’r tabŵ o amgylch menopos, cynyddu ymwybyddiaeth o effaith y menopos ar y rhai sy’n ei brofi, eu teulu, ffrindiau a’u cydweithwyr, a myfyrio ar ‘drydydd cam bywyd’, yn cael ei gynnal gan Grŵp Colegau NPTC yn ei Golegau yng Nghastell-nedd a’r Drenewydd.
Yn agored i gyfranogwyr gwrywaidd a benywaidd o bob oed, bydd y Caffi Menopos yn cael ei gynnal rhwng 10.00-11.30am ar ddydd Gwener 18 Hydref 2019 (Diwrnod Menopos y Byd) yn y lleoliadau isod;
Coleg y Drenewydd
Bwyty Themâu
Y Drenewydd
SY16 4HU
Coleg Castell-nedd
Lolfa Goffi Blasus
Castell-nedd
SA10 7RF
Yn dilyn Caffi Menopos cyntaf y byd, a gynhaliwyd yn Perth, yr Alban yn 2017, mae nifer o Gaffis Menopos wedi’u trefnu ledled y DU, gan gynnwys mewn rhai gweithleoedd. Hefyd, cynhaliwyd Gŵyl Menopos gyntaf y byd yn Perth yn ystod gwanwyn 2018. Dywedodd Rachel Weiss o Rowan Consultancy, a sefydlodd Caffi Menopos, “Mae Caffi Menopos wedi’i anelu at fenywod a dynion o bob oed a hoffai ddod draw i siarad am y menopos, i rannu eu straeon, eu profiadau a’u cwestiynau, gyda’r cwbl wedi’i hwyluso gan de a chacen.
“Yn anffodus, mae llawer o fenywod yn teimlo y dylen nhw ‘fwrw ati’ gyda’r menopos, gyda rhai byth yn siarad â’u ffrindiau neu eu teulu amdano, ond y realiti yw ei fod yn effeithio ar bob menyw yn y pen draw, heb anghofio’r rhai sy’n byw ac yn gweithio gyda nhw. Gall pobl ddod i wrando yn unig, neu ymuno yn y trafodaethau, a hynny gobeithio gan adael gydag ymdeimlad cliriach o effaith y menopos ar y rhai sy’n ei brofi, ynghyd â’u teuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr. ”
Dywedodd Kirsty Wark, noddwr elusen Caffi Menopos, “Rwy’n falch iawn o fod wedi cael gwahoddiad i fod yn noddwr i’r elusen newydd hon sy’n ymroi i gael pawb i siarad am y menopos. Dyma’r ffordd i ddyfodol iachach a hapusach”.
Mae’r Caffi Menopos hwn yn cael ei drefnu gan Grŵp Colegau NPTC. Dywedodd Melanie Dunbar, Rheolwr Adnoddau Dynol: “Mae’r Coleg eisiau chwarae rhan wrth helpu i godi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â’r stigma cysylltiedig, ac rydym yn hynod o falch o gael cynnal ein Caffi Menopos cyntaf”.
Argymhellir cadw lle.
Llyfr ar gyfer Coleg Castell-nedd
Archebwch ar gyfer Coleg y Drenewydd
Am ragor o wybodaeth, ewch i menopausecafe.net