Cynhaliodd Coleg Bannau Brycheiniog ei fore coffi Macmillan blynyddol. Wedi’i drefnu gan y darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Anna Shepherd a’i myfyrwyr Lefel 2, bu staff a myfyrwyr yn cynnal eu bore coffi eu hunain drwy bobi cacennau a derbyn rhoddion ar gyfer yr achos.
Dyma’r 14eg flwyddyn i Anna redeg y bore coffi yn y Coleg a dywedodd: “Mae’n ymwneud â chodi ymwybyddiaeth, oherwydd mae canser yn effeithio ar bawb.”
Gyda chymorth y myfyrwyr, codwyd £130 yn ystod y bore, a dywedodd Anna: “Mae hwn yn weithgaredd gwych y gall myfyrwyr gymryd rhan ynddo, gan gynyddu eu gwaith adeiladu tîm yn ogystal â’u hyder.”
Bydd un o bob dau ohonom yn wynebu canser. Bydd yr arian a godir yn y bore coffi yn helpu pawb sydd â chanser i fyw bywyd i’r eithaf. Cafodd y bore coffi cyntaf erioed ei gynnal yn 1990, ac ers hynny mae Boreau Coffi Macmillan wedi codi dros £200 miliwn.
Am wybodaeth, cymorth neu rywun i siarad â nhw, ffoniwch Macmillan am ddim ar 0808 808 00 00 (7 diwrnod yr wythnos, 8am-8pm).