Mae Llyfrgelloedd Grŵp Colegau NPTC yn dathlu blwyddyn lwyddiannus arall o gynnal rhaglen yr Asiantaeth Ddarllen , sef Darllen Ymlaen. Mae staff y llyfrgelloedd yn annog myfyrwyr i ddarllen er pleser yn ogystal ag ar gyfer eu hastudiaethau, ond i’r myfyrwyr hynny nad oes ganddynt hyder yn eu sgiliau darllen, gall hyn fod yn her yn aml. Mae’r rhaglen Darllen Ymlaen yn annog darllenwyr anfoddog i ddewis chwe darn o ddeunydd ysgrifenedig a’u hadolygu mewn dyddiadur darllen personol. Mae pob cyfranogwr sy’n cwblhau dyddiadur yn derbyn tystysgrif cyflawniad a’r cyfle i ennill gwobr mewn raffl genedlaethol. Mae’r rhaglen yn cael ei chynnal gan lyfrgelloedd cyhoeddus, sefydliadau dysgu oedolion, colegau, gweithleoedd a charchardai.
Eleni, cyflawnodd 121 o fyfyrwyr o Grŵp Colegau NPTC yr her ac roeddent yn ddigon lwcus i ennill dwy o’r deg gwobr a gynigiwyd yn y raffl! Ryan Moule o Goleg Afan ac Ellie Higgs o Goleg Aberhonddu oedd yr enillwyr lwcus. Mae’r ddau yn fyfyrwyr o’r Ysgol Astudiaethau Sylfaen, Addysg Oedolion a’r Gymuned. Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Ellie “Ces i sioc enfawr pan glywais fy mod wedi ennill, rwy’n gobeithio bod hyn yn annog rhagor o bobl i ddarllen llyfr”.
Derbyniodd y Grŵp hefyd Wobr Arian gan yr Asiantaeth Ddarllen i gydnabod y gwaith a wnaed gan staff y Llyfrgell i gynorthwyo myfyrwyr i gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus. Roedd y Coleg yn un o ddim ond dau goleg yng Nghymru a enwyd ar Restr Anrhydeddau 2019 yr Asiantaeth Ddarllen: rhestr o’r sefydliadau sy’n cymryd rhan sydd â’r nifer uchaf o gofrestriadau her.
Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau’r Llyfrgell, Lynne Evans: “Mae mwy a mwy o fyfyrwyr NPTC yn cyflawni’r her Darllen Ymlaen o flwyddyn i flwyddyn. Mae staff y Llyfrgell yn ymroddedig i helpu ein myfyrwyr i wella eu sgiliau darllen, magu hyder a datblygu cariad tuag at ddarllen. Rydym yn falch iawn bod Ryan ac Ellie wedi ennill a llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr a gymerodd ran. “