Roedd myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio o Goleg Y Drenewydd yn falch o gael y cyfle i ddiddanu disgyblion o Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Ladywell Green yn Oriel Davies Y Drenewydd ar ddydd Llun 18 Tachwedd fel rhan o gynhyrchiad byr o’r ‘Falwen Hy a’r Morfil Cry’. Roedd yr addasiad hwn yn addasiad o’r stori boblogaidd i blant a ysgrifennwyd gan yr awdur o fri Julia Donaldson CBE, sy’n adnabyddus am ei storïau poblogaidd sy’n odli a’r darlunydd Axel Scheffler, ac fe’i cyfarwyddwyd gan yr arlunydd lleol Suzy Kemp.
Bu Suzy, sy’n astudio ar PCGC yng Ngholeg y Drenewydd, yn gweithio gyda myfyrwyr Cwmni Theatr Ovation i greu perfformiad byr gyda phypedau fel rhan o’i hastudiaethau. Creodd hi set liwgar, llawn dychymyg o greaduriaid y môr ynghyd â morwyn fawr drawiadol, heb anghofio malwen ofnadwy o fechan. Cafodd yr holl bropiau eu cynhyrchu’n ofalus wrth ddefnyddio deunyddiau bioddiraddadwy. Defnyddiwyd cyfanswm o 570 o blatiau cansen siwgr i ddod ag anturiaethau ‘ y falwen a’r morfil ‘ yn fyw. Bwrsariaeth Celfyddydau Powys oedd yn gyfrifol am ariannu’r deunyddiau.
Defnyddiwyd rhyngweithio yn y perfformiad a oedd yn cynnwys llawer o hwyl ac egni creadigol i ddifyrru ei gynulleidfa ifanc Roedd ymateb y plant yn wych a mynegodd Suzy yn ddiweddarach gymaint yr oedd hi wedi mwynhau’r prosiect, gan ddweud diolch i’r rhai a oedd wedi cefnogi’r cynhyrchiad gyda diolch arbennig i Gyhoeddwyr Macmillan am roi eu caniatâd i ddefnyddio’r llyfr stori, Oriel Gallery, Mike West am y gerddoriaeth a’r myfyrwyr am ddod â’i gweledigaeth yn fyw.