Yn ddiweddar croesawodd Coleg y Drenewydd Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn. Ymunodd y Comisiynydd Troseddu â chydweithwyr o’r Uned Plismona Ffyrdd a ddarparodd sesiwn holi ac ateb gyda’r Myfyrwyr Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Yna, aeth i ymweld â myfyrwyr o’r adran Porth i Adran Addysg bellach a gwelodd y gwaith yr oeddent wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar ar y cyd â Chwnstabl Jennings, heddwas lleol. Gwnaethon nhw greu arddangosiad trawiadol iawn i ymgyrchu yn erbyn troseddau casineb. Bu’r grŵp hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr yn adran cyfryngau’r Coleg i greu ffilm fer i godi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â throseddau casineb. Siaradodd y Comisiynydd yn gadarnhaol iawn am eu gwaith da, gan atgyfnerthu’r negeseuon a gwerth yr ymgyrch.
Yna, aeth y Comisiynydd i ymweld â Theatr Hafren sydd wedi’i lleoli yng Ngholeg y Drenewydd. Gwelodd dros ei hun y defnydd a wneir o’r cyfleusterau a oedd yn cael eu defnyddio y diwrnod hwnnw gan Wasanaeth Gwaed Cymru, gan dynnu sylw at y rôl amrywiol sydd gan ofod y theatr. Aeth Sara Clutton, Rheolwr y Theatr â’r Comisiynydd ar daith hefyd o amgylch y lleoliad gan ddangos ardal y llwyfan iddo, ac ar daith i ben y tŵr hefan.