Rydyn ni i gyd yn gwybod bod rhywun arbennig yn brysur iawn yr adeg hon o’r flwyddyn, a dyna pam y bu’n rhaid i’w gynorthwywyr o Goleg Castell-nedd adeiladu ei gar llusg yn barod ar gyfer gorymdaith Nadolig Castell-nedd Port Talbot.
Defnyddiodd myfyrwyr Gwaith Coed Lefel 2 a’u darlithwyr eu holl sgiliau mewn gwaith coed a pheintio, ynghyd ag ychydig o hud y Nadolig, i wneud y car llusg a gludodd Sion Corn a’i gorachod i’r digwyddiad cynnau’r goleuadau Nadolig eleni yng nghanol tref Castell-nedd.
Cadwyd y car llusg mewn lleoliad cyfrinachol tan y noson pan gafodd ei dynnu gan geirw y byddai Blitzen a Dancer wedi bod yn falch ohonynt. Yn ymuno â hwy oedd The Wave a gweithgareddau’r ŵyl gan gynnwys groto chwyddadwy a phaentio wynebau.
Roedd Ian Lumsdaine, Pennaeth yr Ysgol: Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig yn falch iawn o gael cais i fod yn rhan o’r prosiect, a dywedodd:
‘Mae bob amser yn brofiad gwych i fyfyrwyr weithio ar brosiectau byw er mwyn eu gwneud mor barod ar gyfer eu gyrfa ag sy’n bosibl, ond roedd hud Nadoligaidd ychwanegol yn perthyn i hyn. Roedd cael ein dewis i gludo Sion Corn ar gyfer yr orymdaith yn gyffrous iawn gan fod y myfyrwyr yn gallu gweld eu holl waith caled yn dod â llawenydd i gymuned Castell-nedd.’
Capiswn Llun: Myfyrwyr Gwaith Coed ac Asiedydd Lefel 2 Coleg Castell-nedd (sef – cynorthwywyr Sion Corn)