Mae Grŵp Colegau NPTC wedi dathlu lansiad swyddogol ei Lu Cadetiaid Cyfun newydd (CCF).
Cynhaliodd Academi Chwaraeon Llandarcy orymdaith arbennig yn cynnwys yr holl gadetiaid i nodi’r achlysur, a chroesawyd teuluoedd, aelodau o’r gymuned leol a phersonél y lluoedd arfog gan gynnwys y gwestai anrhydeddus, Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg.
Yna gorymdeithiodd y cadetiaid CCF, yn barod i’w harchwilio gan Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Mr D. Byron Lewis a benodwyd ym mis Mai 2008 gan Ei Mawrhydi y Frenhines. Cafodd yr Arglwydd Raglaw hefyd y fraint o ddyfarnu medalau i’r cadetiaid cyntaf erioed i’w dyrchafu’n Is-gorporal. Mae’r ddau gadet, Cameron Brown a Kieran Ace, sy’n astudio Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 yn Academi Chwaraeon Llandarcy wedi mynd yr ail filltir o ran yr hyn a ddisgwylid ganddynt yn ystod eu hamser fel cadetiaid a dod yn fodelau rôl i’r cadetiaid eraill.
Dywedodd y cadét Cameron Brown, “Mae’n fraint cael bod yn un o’r cadetiaid cyntaf i gael fy nyrchafu yn Is-gorporal. Ymunais â’r CCF i wella fy CV, ond mae wir wedi cael mwy o effaith ar fy mywyd gyda mwy o hyder, sgiliau personol, gwneud ffrindiau newydd a dysgu bod yn fwy disgybledig. Mae’r CCF yn beth gwych i unrhyw un i gymryd rhan ynddo – rwy’ wrth fy modd! ”
Mae ein myfyrwyr cyntaf wedi cael blwyddyn gyffrous iawn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel darllen mapiau, trin arfau a saethu, dril troed (gorymdeithio), sgiliau cyflwyno personol, ymgysylltu cymunedol (Sul y Cofio) yn ogystal â gweithgareddau awyr agored megis cyfeiriannu, caiacio a beicio mynydd. Gorffennodd y cadetiaid y dydd drwy arddangos y sgiliau hyn i’w rhieni balch.
Mae’r CCF yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau heriol, cyffrous, anturus ac addysgol i fyfyrwyr gyda’r nod o ddatblygu sgiliau mewn cyfrifoldeb personol, arweinyddiaeth a hunanddisgyblaeth. Mae’r CCF yn bartneriaeth addysgol rhwng y coleg a’r Weinyddiaeth Amddiffyn sy’n gweithio i greu pobl ifanc cytbwys a llawn cymhelliant sy’n barod ar gyfer byd gwaith a gofynion pob math o gyflogwyr.
Yn ôl Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, braint oedd cael llywyddu dros y digwyddiad. Dywedodd:
“Rwy’n falch iawn o fod yma heddiw i groesawu’r cadetiaid newydd i deulu Llu’r Cadetiaid Cyfun. Rwyf wedi gweld yn bersonol y gwahaniaeth y mae CCF wedi’i wneud i gadetiaid ac mae’n fraint cael bod yn rhan ohono. Rwy’n falch iawn o weld cymaint o deuluoedd balch yma.”