Cafodd myfyrwyr Lefel 1 a 2 o Gerbydau Modur ddiwrnod arbennig wrth iddynt weld dyfodol technoleg awtomatig.
Cafodd y myfyrwyr cerbydau modur gyfle i weld car trydan yn uniongyrchol i’w galluogi i ddysgu am y cerbyd a’r dechnoleg y tu ôl iddo.
Mwynhaodd y myfyrwyr y profiad yn fawr, gan roi cynnig ar yr holl declynnau gwahanol ar y car yn ogystal â dysgu am sut ffurf fydd i’r dyfodol o bosibl o ran cerbydau modur.