Ydych chi’n gadael yr ysgol yr haf hwn ac yn ansicr a ydych am ddewis Safon Uwch, Prentisiaeth neu Gwrs Galwedigaethol, neu a ydych yn dymuno uwchsgilio yn eich swydd bresennol, newid eich gyrfa, neu hyd yn oed ddechrau gradd neu gymhwyster lefel prifysgol?
Os felly, beth am ymuno â ni yn un o’n Nosweithiau Agored fis Ionawr yma rhwng 4:30pm – 7:30pm yn y campysau canlynol:
14 Ionawr Canolfan Adeiladwaith Abertawe (Adeiladwaith)
14 Ionawr Academi Chwaraeon Llandarcy (Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus)
15 Ionawr Coleg Pontardawe (Cerbydau Modur a Thrwsio Cyrff Cerbydau Modur)
Coleg Afan
Coleg Bannau Brycheiniog
16 Ionawr Coleg Castell-nedd
Coleg Y Drenewydd
Bydd ein nosweithiau agored yn caniatáu i ddarpar fyfyrwyr a’u rhieni gael profiad o safleoedd arobryn y Coleg a’i gyfleusterau ardderchog. Ynghyd â hyn, bydd myfyrwyr yn gallu cael rhagor o wybodaeth am yr ystod o gyrsiau pwnc sydd gennym i’w cynnig.
Bydd gennym staff arbenigol a myfyrwyr presennol wrth law i roi cyngor ac arweiniad arbenigol ar gyrsiau, ceisiadau a bywyd coleg. Bydd myfyrwyr a rhieni yn darganfod yn uniongyrchol y profiadau addysgol y mae Grŵp Colegau NPTC yn eu darparu, yn cael cyfle i ddarganfod bywyd y tu allan i’r ystafell ddosbarth a gweld beth mae’r Coleg yn ei gynnig o ran gweithgareddau allgyrsiol.
Blwyddyn Newydd, Cyrsiau Newydd
Ydych chi’n chwilio am gyfle i ddysgu rhywbeth newydd heddiw? P’un a ydych am gael hobi newydd, ennill sgiliau neu ddechrau gyrfa newydd, yng Ngrŵp Colegau NPTC mae gennym ddewis ysbrydoledig a chyffrous o gyrsiau rhan-amser newydd sbon, sy’n dechrau ym mis Ionawr 2020.
Gyda phopeth o Ysgrifennu Creadigol i Osod Brics, bydd gennym gwrs yn sicr a fydd yn addas i chi, yn cynnwys amrywiaeth o ddosbarthiadau dydd, gyda’r hwyr neu ar benwythnosau a all weddu i’ch ffordd o fyw.
Diddordeb? Ymunwch â ni yn ein cyfnod ymrestru agored o ddydd Llun 13eg Ionawr neu un o’n nosweithiau agored yng ngholegau Castell-nedd ac Afan.