Mae’n gyffrous i allu cyhoeddi lansiad ein hwb cymunedol newydd – y ‘Cwtch’ – yng nghanol Aberhonddu. Bydd y ganolfan groeso gynt yn agor ei drysau cyn y gwanwyn gan roi mynediad hawdd i aelodau’r cyhoedd i gymorth a gwybodaeth am y Coleg.
Penderfynodd Bwrdd Llywodraethwyr y Coleg y dylai’r adeilad gael ei enwi gan staff a leolir yng Ngholeg Bannau Brycheiniog. Nod yr adeilad newydd yw creu gweledigaeth ar gyfer addysg bellach yn Aberhonddu ac iddo fod yn rhan o’r gymuned gyda mynediad agored i bawb.
Dywedodd y darlithydd Helen Griffiths a enwodd yr adeilad: “Roeddwn i am gael elfen Gymreig i’r enw yn ogystal â chael rhywbeth oedd yn groesawgar. Prif bwrpas yr enw oedd ei fod yn ymwneud â bod yn galon y Coleg, yn lle croesawgar a fyddai’n denu pobl i mewn.”
Mae Helen yn mynd ymlaen i ddweud: “Roeddwn hefyd yn gallu gwneud CWTCH yn anagram (College Within The Community Hub). Gan y byddai’r Coleg yng nghanol y gymuned, roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig bod yr enw yn adlewyrchu hyn.”