Mae cyn-fyfyriwr Grŵp Colegau NPTC a maswr Warriors Caerwrangon Luke Scully wedi cael ei enwi yn sgwad dan 20 Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020.
Mae’r cyn-fyfyriwr Academi’r Chweched Dosbarth sy’n hanu o Banwen yn barod ar gyfer ei ymddangosiad cyntaf i dîm dan 20 Cymru yn gêm agoriadol y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal yn Stadiwm ZipWorld ym Mae Colwyn heno, ar ôl colli allan oherwydd anaf yn 2019.
Yn debyg i Owen Farrell neu Dan Biggar, y mae’n eu nodi yn fodelau rôl iddo, dechreuodd Scully fel canolwr mewnol yn chwarae rygbi iau i’w dref enedigol gyda Banwen RFC cyn gwisgo’r crys Rhif 10 yn 13 oed tra’n chwarae i Neath Athletic.
Tra’n astudio Safon Uwch yn y Gyfraith, Hanes ac Economeg yng Ngholeg Castell-nedd, roedd Scully yn gapten ar dîm cyntaf y Coleg ar gyfer tymor 2017/2018 ac yn rhan o Academi’r Gweilch cyn i Gaerwrangon gysylltu ag ef: “Llwyddais mewn treialon ar gyfer y Gweilch cyn chwarae o dan 16 ac o dan 18 drostyn nhw, ac yna cynrychioli Cymru dan 18, ond dangosodd un neu ddau o glybiau yn Lloegr ddiddordeb hefyd,” esboniodd Luke. “Roeddwn i eisiau symud oddi cartref. Rydych chi’n ymestyn eich hun wrth symud i ffwrdd o amgylchiadau cyfarwydd.”
Ers ymuno â’r Warriors yn ystod haf 2018, mae Scully wedi cymryd rhan mewn dau dwrnamaint rygbi saith bob ochr yn y brif gynghrair ac wedi ennill profiad hŷn gwerthfawr gyda Hartpury ym Mhencampwriaeth IPA Greene King.
Dywedodd Paul Williams, Hyfforddwr yr Academi Rygbi wrthym am amser Luke yng Ngrŵp Colegau NPTC:
“Roedd Luke yn chwaraewr gyda ni am ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd yn fyfyriwr ymroddgar, talentog a llawn cymhelliant. Chwaraeodd ym mron pob gêm gynghrair i ni, gan gyflwyno perfformiadau rhagorol yn unigol ac yn rhan o’r tîm. Roedd yn bleser gweithio gyda Luke ac roedd yn awyddus iawn i lwyddo.”
Mae rhai o’i gyd-aelodau o deulu Grŵp Colegau NPTC yn ymuno â Luke yn y garfan dan 20; Rhys Thomas, Bradley Roderick a James Fender, sydd wedi ymddangos yma o’r blaen.
Dywedodd Sali Millward, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus:
“Fel Coleg, rydym wrth ein bodd ac yn hynod falch o’u llwyddiannau ym maes rygbi; mae’r myfyrwyr yn cael cyfleoedd i astudio o fewn ein hystod eang o feysydd cwricwlwm. Mae hyn yn cydredeg â rhaglen datblygu rygbi o safon yn Academi Rygbi Grŵp NPTC o fewn ein cyfleusterau sy’n arwain y sector yn Academi Chwaraeon Llandarcy. Edrychwn ymlaen at wylio eu cynnydd ar lefel clwb, yn rhanbarthol ac yn rhyngwladol.”
Mae Luke, Bradley a James i gyd wedi cael eu henwi yn y sgwad 23 dyn ar gyfer gêm agoriadol y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal ac fe allwch weld yr holl gyffro yn fyw ar S4C o 7:20pm.