Yn ddiweddar bu staff o Goleg y Drenewydd yn brwydro trwy dywydd gwael wrth iddynt wynebu’r copa uchaf yn ne Cymru gan godi cyfanswm gwych o £450 ar gyfer elusen.
Cymerodd tîm hyfforddi Pathways y Coleg ran yn yr her o gerdded i fyny mynydd Pen Y Fan ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fel rhan o ymarfer adeiladu tîm, yn ogystal â chyfle i godi arian ar gyfer yr elusen ymateb cyflym Beiciau Gwaed.
Mae Beiciau Gwaed yn elusen wedi’i seilio ar feiciau modur sy’n defnyddio beiciau i gludo eitemau meddygol brys sydd eu hangen mewn argyfwng. Ar y beiciau gellir cludo gwaed, pelydrau x a chyffuriau. Caiff y rhain eu cludo rhwng ysbytai a chyfleusterau gofal iechyd. Mae’r elusen yn dibynnu i raddau helaeth ar wirfoddolwyr a rhoddion caredig gan eraill.
Y staff; bu Clive Green, Arwyn Jones (cyn wirfoddolwyr y ar gyfer Beiciau Gwaed), Pat Walton, Susan Roberts, Suzanne Rowlands a Theresa Mullinder yn wynebu heriau ar hyd y ffordd a oedd yn cynnwys gwynt, glaw trwm a gwelededd gwael. Er gwaethaf popeth, fe wnaeth Clive, Arwyn, Pat a Suzanne fwrw ymlaen i gyrraedd brig y mynydd 886 metr.
Dywedodd Pat Walton, ‘Er ein bod wedi’n gwlychu’n llwyr, roedd yn deimlad gwych o fod wedi cyflawni rhywbeth.’
For the first photo – o’r chwith Clive Green, cynrychiolydd Beiciau Gwaed Andy Thomas, Pat Walton, Theresa Mullinder, Vicci Lloyd-Jones, cynrychiolydd Beiciau Gwaed Lorraine Thomas ac Arwyn Jones.