Braint i Adran Arlwyo a Lletygarwch Coleg y Drenewydd oedd cynnal Cogydd Ysgol y Flwyddyn 2020.
Cynhaliwyd rownd derfynol ranbarthol ysgolion Cymru LACA yn y coleg, gyda’r myfyrwyr Arlwyo a Lletygarwch yn cynorthwyo ac yn cludo prydau gorffenedig at y bwrdd i’w beirniadu. LACA yw’r sefydliad sy’n cynrychioli buddiannau’r sector arlwyo mewn ysgolion.
Cogydd Ysgol y Flwyddyn yw prif gystadleuaeth sgiliau coginio y sector arlwyo addysg. O fewn y gystadleuaeth, mae gan gystadleuwyr 90 munud i baratoi, coginio a chyflwyno pedwar dogn o bryd dychmygus dau gwrs sy’n gorfod bod yn addas i’w weini i griw mawr o blant 11 oed mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae rhai ffiniau anodd ar gyfer y gystadleuaeth hon, gyda chost un prif gwrs ac un pwdin heb fod yn uwch na £1.30.
Wrth roi sylw ar ddechrau rownd derfynol LACA, dywedodd Stephen Forster, Cadeirydd Cenedlaethol LACA:
‘Does dim fformiwla gudd i lwyddo yng nghystadleuaeth Cogydd Ysgol y Flwyddyn LACA. Y cyfan sydd ei angen yw cogyddion ysgol gydag angerdd, ymroddiad a llawer o sgil coginio ynghyd â seigiau blasus a maethlon wedi’u paratoi gyda chreadigrwydd a dawn. Bob blwyddyn, mae’r gystadleuaeth hon yn ein galluogi i ddangos i’r byd ehangach yr arbenigedd proffesiynol sydd gan gogyddion ysgol heddiw a’r prydau rhagorol y maent yn eu paratoi’n ddiflino bob dydd mewn ysgolion ledled y wlad.”
Noddwyr y gystadleuaeth yw McDougalls, sy’n eiddo i Premier Foods, gyda Premier Foods yn un o gynhyrchwyr bwyd mwyaf Prydain.
Dywedodd Swyddog Gweithredol Premier Foods, Mark Rigby: “Rydym eisiau dweud diolch yn fawr iawn i’r holl arlwywyr ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Am flwyddyn arall, rhagorwyd ar ein disgwyliadau unwaith eto.”
Enillydd rhagras y gystadleuaeth oedd Jane Jones o Sir Ddinbych, fydd yn derbyn y wobr ariannol o £100. Bydd enillydd cyffredinol y teitl Cenedlaethol yn derbyn gwobr ariannol o £1000 a thlws Cogydd Ysgol y Flwyddyn LACA 2020.