Bu tua 500 o ddisgyblion Aberhonddu gan gynnwys myfyrwyr Coleg Bannau Brycheiniog yn cymryd rhan yn nathliad pen-blwydd cyntaf y gefeillio rhwng Aberhonddu a Dhampus yn Nepal. Fis Chwefror diwethaf, teithiodd dirprwyaeth o 23 o bobl o Aberhonddu, gan gynnwys y Maer ar y pryd, y Cynghorydd Manny Trailor, y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Ann Mathias, pump o gynghorwyr a Chlerc y Dref, Fiona Williams, i Nepal ar gyfer y seremoni gefeillio ar Chwefror 10fed 2019.
Mae’r myfyrwyr wedi bod yn mynychu dosbarth ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) yn y gymuned am ddwy flynedd, ac yn ystod y cyfnod hwn maent wedi gwella eu hyder wrth siarad a datblygu eu medrau darllen ac ysgrifennu. Dyfarnwyd tystysgrifau Agored Cymru iddynt sy’n cwmpasu amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â’u sgiliau byw o ddydd i ddydd, fel siopa, gofyn cwestiynau a’r tywydd.
Mae gan Grŵp Colegau NPTC berthynas gadarn, gadarnhaol a hirfaith â’r gymuned Nepalaidd lle mae ESOL ar bob lefel wedi’i chyflwyno i ystod eang o ddysgwyr – yn amrywio o’r fyddin i’r genhedlaeth hŷn. Mynychir y dosbarthiadau gyda brwdfrydedd a gwelir llawer o wynebau hapus, ac maent yn parhau i ffynnu.
Yn ystod y bore, cynhaliwyd y digwyddiad yn Neuadd y Dref, Aberhonddu, a oedd wedi’i haddurno ag arteffactau Nepalaidd, a gwelwyd ysgolion cynradd Aberhonddu yn ymuno â’r digwyddiad i ddathlu’r gefeillio. Gwelodd y dathliad anerchiadau gan yr Uwchgapten Prem Gurung MB; Capten Gethin Davies a Janice Miller, Prif Weithredwr yr elusen Kidasha yn siarad am ei gwaith elusennol a Hayley Ridge Evans o Glwb Rotari Aberhonddu.
Dywedodd Jacqui Griffiths, Darlithydd ESOL: “Mae’n wych sut rydyn ni’n rhan o’r gymuned, mae’n ddathliad gwych i fod yn rhan ohono ac i allu llongyfarch ein myfyrwyr am eu gwaith caled a’u hymroddiad.”