Mae Coleg Bannau Brycheiniog yn cynnal cysylltiadau cryf o fewn y gymuned, o’i waith cymunedol i’r myfyrwyr sy’n dod drwy ei ddrysau.
O fewn y Coleg ceir cysylltiadau agos hefyd â’r gymuned Nepalaidd, gyda dau fyfyriwr yn arbennig, Prizan Budha a Ashish Rai yn dangos penderfyniad gwych i fod yn fodelau rôl i’r Coleg.
Mae Prizan, sy’n dod yn wreiddiol o Dang Ghorahi yn Nepal wedi astudio yn Aberhonddu am y rhan fwyaf o’i fywyd, o’i ddyddiau cynnar yn Ysgol Gynradd Mount Street i Ysgol Uwchradd Aberhonddu. Yn 2017, ymrestrodd Prizan yn y Coleg i astudio T.G a Menter, a arweiniodd wedyn at ei gwrs Lefel 3 presennol mewn Busnes a’r Gyfraith.
Mae Prizan yn sôn yn annwyl am ddewis y Coleg gan ddweud: “Rwy’n hoffi’r gymuned o fewn y Coleg a’r holl staff a myfyrwyr cyfeillgar. Mae’r staff yn rhoi arweiniad i mi ac yn fy nghefnogi i gyflawni’r i’r eithaf ac yn fy helpu gyda fy ngham nesaf i fynd i’r brifysgol. ”
Mae gan Prizan bum cynnig eisoes gan brifysgolion i astudio Busnes a Marchnata ac mae’n gobeithio mynd i naill ai Coleg San Steffan neu Brifysgol Fetropolitan Caerdydd. Ychwanegodd: “Ar ôl astudio’r cwrs yn y Coleg, mae wedi gwneud i mi eisiau parhau i astudio a dilyn gyrfa o fewn y diwydiant busnes.”
Dechreuodd Ashish yn y coleg ym 2016 wrth ymuno â chwrs Porth yn gyntaf, gan symud ymlaen i lefel 2 mewn T.G. a Busnes ac ar hyn o bryd cymhwyster Lefel 3 mewn Busnes a Chyfraith.
Daeth Ashish yn wreiddiol o Kathmandu i Aberhonddu naw mlynedd yn ôl pan ymunodd ei dad â Brigâd y Gyrcas, rhan fawr o’r gymuned yn Aberhonddu.
Dywedodd Ashish: “Doeddwn i ddim wedi llwyddo i gyflawni llawer o gymwysterau TGAU, ac fe wnaeth hyn effeithio ar fy hyder. Drwy ddod i’r Coleg, roedd modd i fi ei ail-fagu a datblygu mewn pwnc fy mod i’n ei garu, fy hoff ran o’r cwrs yw marchnata a hysbysebu. ”
Ychwanegodd: “Y prif gymorth o fewn y coleg yw’r cyfathrebu rhwng staff a myfyrwyr, maen nhw wedi gwrando arna i ac wedi fy nghefnogi drwy gyfnodau anodd.”
Mae Ashish yn gobeithio mynd i Brifysgol Southampton ar ôl ei astudiaethau i astudio marchnata a hysbysebu ac mae’n gobeithio datblygu ei sgiliau hyd yn oed yn fwy.
Mae’r ddau yn fodelau ac yn llysgenhadon gwych i Goleg Bannau Brycheiniog a dymunwn y gorau iddynt yn eu hastudiaethau yn y dyfodol.