Treuliodd aelodau o staff o Golegau Bannau Brycheiniog ac Afan eu hanner tymor yn cerdded yn y Sahara, Moroco i godi arian dros amrywiaeth o elusennau.
Y Sahara yw’r 3ydd anialwch mwyaf ar y Ddaear ac mae’n cwmpasu tua 3.6 miliwn milltir sgwâr. Dyma’r anialwch poethaf ar y blaned.
Cychwynnodd y daith gerdded ym M’Hamid a chafodd ei arwain gan dywyswyr profiadol lleol ac roedd gan y grŵp eu cadwyn o gamelod eu hunain hefyd.
Yn ystod y daith 10 niwrnod, cerddodd y staff am 5 niwrnod gan gyflawni 36 milltir – pellter syfrdanol drwy gydol y dyddiau hynny, gyda phedair noson o gwsg o dan y sêr.
Yn ystod y daith, roedd cyfle i’r staff yn weld golygfeydd ysblennydd fel yr Erg Chegaga, sef y môr tywod mwyaf ym Moroco. Yn ogystal â’r machludau haul gwych a’r syllu ar y sêr.
Ar ôl y daith gerdded, ymwelodd y grŵp a’r elusennau lleol yr oeddynt wedi codi arian drostynt, y warchodfa asynnod Jarjeer a chartref plant amddifaid ym Marrakesh.
Dywedodd Linda Kelly, darlithydd TGCh a threfnydd y daith gerdded: “Yn ffodus, llwyddais i gael 15 o ffrindiau anturus i ymuno â mi, a oedd yn cynnwys 4 aelod o staff NPTC – Anna Shepherd, Tina Davies a Kim Mann o Aberhonddu a Clair Rees o Afan. Gwnaethon ni ariannu’r daith ein hunain yn llawn, felly roedd modd i ni roi bob ceiniog o’r £880 a godwyd fel nawdd yn uniongyrchol i Ysbyty Plant Birmingham.